Posts Tagged ‘seidr’

Diod Cymreig Mis Chwefror – Blaengawney Cider: Hallets Real Cider (6.0%afc)

02/02/2014

Mae Blaengawney Cider wedi’i leoli ar y fferm o’r un enw ac caiff ei redeg gan wr a gwraig Andy ac Annie Hallet. Am beth amser seidr draft oedd eu cynnyrch ond, yn weddol ddiweddar, maen’t wedi mentro creu seidr mewn potel.

Hallets brown hero_1080b

Yn lle defnyddio’r enw Blaengawney fe wnaethon ddatblygu brand newydd yn seiledig ar yr enw teuluol. Hallets Real Cider yw’r en war gyfer eu seidr potel ac maen’t wedi creu brand hynod o dda.

Mae’n cael ei wneud gyda 100% o afalau Cymreig a mae seidr o’r cynhaeaf gyfredol yn cael ei gymysgu gyda seidr o afalau Dabinett sydd wedi bod yn aeddfedu am tua blwyddyn. Hefyd mae ei natur pefriog yn naturiol a defnyddir y dull ‘keeving’ sy’n fwy nodweddiadol o seidr Ffrainc i greu hyn.

Fel arfer, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…

Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Mercher 12 Chwefror rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru

Advertisements

Diod y Mis Gorffennaf – Gwynt y Ddraig – Gold Medal Cider (7.0%afc)

01/08/2013

Hen bryd i seidr hawlio sylw Diod Cymreig y Mis.

GwyntGoldMedalBottle

Gwynt y Ddraig yw gwneuthurwyr seidr mwyaf Cymru ac maent ar flaen y gad yr adfywiad seidr Cymreig.

Maent wedi eu lleoli yn Llanilltud Faerdref a dechreuont yn 2001. Mae’r rhan fwyaf o’u hafalau yn dod o berllannau Cymreig ond maent yn ychwanegu at y rhain drwy fewnforio afalau o Swydd Henffordd a Gwlad yr Haf.

Enillodd Gold Medal pencampwriaeth seidr CAMRA nol yn 2004 ac mae yn gymysgedd o afalau ‘bittersweet’ a rhai ‘sharp’. Mae’n cael ei aeddfedu mewn casgenni derw ac yn seidr canolig.

Wel, be ‘da chi’n feddwl o’r seidr, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…

Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 15 Awst rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru

Coles Family Brewery

08/04/2013

Fe ennillodd bragdy Coles Family Brewery wobr arian Cymru Y Gwir Flas eleni. Er ei fod yn fragdy, seidr yw Carmarthenshire Gold a ennillodd y wobr iddynt, mwy o hynny nes ymlaen.

Mae’r bragdy wedi’i leoli yn nhafarn y White Heart yn Llanddarog sydd i’r dwyrain o Gaerfyrddin ar yr A48 tuag at Cross Hands. Mae’r White Heart yn dy tafarn hynafol gyda tho gwellt hardd, ac os nad ydych erioed wedi bod yno, gallwch fynd ar daith rithiol. Tan yn ddiweddar, roedd y bragdy yn un bach ‘un-gasgen’ (one-barrel) yn y dafarn ei hun. Ond maen’t wedi ehangu a creu bragdy mwy ‘pedair-casgen’ (four barrel plant) mewn adeilad yr ochr arall eu maes parcio. I weld y Coles Family Brewery wrth eu gwaith gwyliwch y fideo yma sy’n mynd a chi drwy’r holl broses fragu.

Fe ddechreuont fragu yn y bragdy bach gwreiddiol yn 1999 er mwyn cyflenwi’r dafarn yn unig. Ond, gydag agor y bragdy newydd ym mis Ionawr gallant ddechrau cyflenwi tafarnau eraill ac hefyd dosbarthu eu cwrw potel yn ehangach.

Fe fydd y bragdy mwy yn cynhyrchu eu prif gwrw sef Cwrw Blasus, eu chwerw, Llanddarog, chwerw tywyll frown, Swn y Dail sy’n cael ei fragu gyda hopys o’r Unol Dalieithau a Merlin Stout.

Bydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofiadau bragu a fydd, os yn boblogaidd, yn cael ei wneud ar raddfa fwy yn y bragdy mawr. Hefyd fe fydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio i fragu eu cwrw arbenigol tymhorol. Maen’t wedi cynhyrch nifer o gwrw arbenigol gan ddefnyddio pob math o gynhwysion megis betys, danadl poethion a stowt licris

Digon yma ar gyfer  yfwyr cwrw felly, ond maent hefyd yn gwneud seidr yn ystod y tymor cynhaeafu afalau. Maent yn gwneud pedwar seidr o sych i felys a hefyd seidr pefriog mewn arddull champagne gan ddefnyddio’r math Gala, sef afal bwdin. Mae’r ffaith nad ydynt bob amser yn defnyddio afalau seidr yn gwneud Coles ychydig yn wahanol i lawer o wneuthuwyr seidr eraill yng Nghymru. Mae pob un o’r afalau yn cyrraedd fel afal cyfan ac yn cael eu gwasgu i mewn sudd, eplesu ac yn aeddfedu ar y safle fel y gwelir yn y clip bach hwn o wneud seidr.

Mae rhai o’u afalau’n lleol ond maen’t hefyd yn cael rhai o fannau eraill gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr. Dibynnir hyn ar faint o hael yw’r cynhaeaf leol.

Seidr sych-ganolig yw Carmarthenshire Gold itself a wneir gan ddefnyddio afalau pwdig a rhai coginio. Gan nad oes afalau seidr yn cael eu defnyddio ni fydd ‘tannin’ yn y seidr gorffenedig ond fe fydd yn eithaf siarp oherwydd yr afalau coginio.

Felly, tro nesaf y byddwch yn i lawr y ffordd honno gwnewch yn siŵr o alw mewn i fwynhau’r dafarn wych yma a’u cwrw a seidr ardderchog. Er bod y dafarn yn bendant yn werth yr ymweliad, gobeithio y bydd argaeledd ehangach  yn golygu bod eu cynnyrch yn cyrraedd cynulleidfa ehangach yn y dyfodol agos, a fyddai’n hynny’n newyddion gwych.

SEIDR CYMRU – YN ÔL O’R BEDD

28/02/2013

Mewn ychydig flynyddoedd mae Cymru wedi dod yn enwog am ansawdd ei seidr a pherai. Mae hyn yn ddigwyddiad hynod rhyfeddol ac yn dystiolaeth i angerdd a sgiliau’r cynhyrchwyr  seidr a pherai Cymreig.

Mae gan Gymru draddodiad cryf o gynhyrchu seidr a pherai. Yn enwedig mae hyn yn wir am Sir Fynwy a Morgannwg. Mae hyn i’w ddisgwyl gan fod Sir Fynwy yn ffinio gydag un o’r ardaloedd mwyaf seidr a pherai yn Lloegr – rhanbarth y ‘tair sir’. (Y ‘tair sir’ yw Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw a Swydd Gaerwrangon).

Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd cynhyrchu seidr yng Nghymru, fel Lloegr, yn cael ei wneud ar raddfa fach gan ffermwyr fel rhan o’u blwyddyn amaethyddol. Fel arfer roedd hyn ar gyfer ei yfed yn y cartref a hefyd roddwyd i weithwyr fferm adeg y cynhaeaf. Am gipolwg diddorol gwelwch dudalennau treftadaeth ar wefan Cymdeithas Perai a Seidr Cymru.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd daeth newid i fyd amaeth gyda llai o bwyslais ar arallgyfeirio ac felly roedd ddirywiad difrifol mewn gwneud seidr a pherai ar raddfa fach gan ffermwyr. Yn wahanol i’r siroedd cyfagos yn Lloegr, lle wnaeth rhai cynhyrchwyr bychain dal ati, diflannu’n gyfan gwbl bu’r hanes yng Nghymru.

Mae’r ffaith yma yn gwneud yr adfywiad yn fwy anhygoel fyth. Dechreuodd yn y 1980au gyda rhyw ddau o gynhyrchwyr ond yn ystod y 1990au hwyr wnaeth pethau gynyddu o ddifrif.

Erbyn hyn mae dros 30 o gynhyrchwyr seidr a pherai yng Nghymru ac, er bod y mwyafrif yn y de, mae bellach wedi lledaenu dros Gymru gyfan. Cynhyrchu seidr sydd wedi lledaenu, mae perai dal i fod yn rhywbeth prinnach. Ein cynhyrchydd mwyaf adnabyddus yw Gwynt y Ddraig ac mae bellach yn eithaf hawdd i ddod o hyd i’w cynnyrch ar draws Cymru a thu hwnt. Mae rhai o’r lleill ar raddfa fach ac mae’n debyg y byddent yn parhau felly ond mae eraill yn fwy uchelgeisiol ac un seren ddisglair yw Blaengawney Cider yn enwedig eu cynnyrch diweddar mewn potel – Hallets Real Cider.

Gan fod perai a seidr Cymreig yn eithaf tebyg i rai’r ‘tair sir’, mae gwaith wedi ei wneud ailddarganfod a defnyddio mathau afalau seidr a gellyg perai Cymreig i wahaniaethu ein seidr a pherai. Mae llawer o waith wedi ei wneud i adnabod y mathau yma ac mae rhai o’r canlyniadau i’w gweld yma yn y ffurf ‘Pomona’ Cymru.

Beth sydd hefyd wedi bod yn allweddol i dwf y perai a seidr yng Nghymru yw’r Gymdeithas Perai a Seidr. Ef yw’r grŵp cynhyrchwyr mwyaf effeithiol yn y diwydiant diodydd yng Nghymru ac mae ganddo’r potensial i dyfu i fod sefydliad masnachol cyflawn os yw’r datblygiad yn parhau. Mae’n trefnu Gŵyl Perai a Seidr Cymru, yn ogystal â hyfforddiant mewn cynnal a chadw perllan a chynhyrchu seidr. Mae hefyd wrthi gyda nifer o brosiectau cyffrous eraill ac mae wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r rhain. Rwy’n gobeithio gallu adrodd am y rhain yn y dyfodol wrth iddynt ddatblygu ymhellach.

Mae Cymru bellach yn rhanbarth adnabyddus o gynhyrchu seidr a pherai ac yn gartref i gynnyrch o’r radd flaenaf. Mae’n anhygoel beth sydd wedi digwydd mewn cyfnod byr o amser. Mae perai a seidr Cymreig yn ôl, ac yn ôl gyda chlec!

Gwir Flas Diodydd Cymru?

08/11/2012

Gwyriad o fy nghynllun gwreiddiol i edrych ar bob categori yn niwydiant diodydd Cymru gan fod seremoni wobrwyo Cymru Y Gwir Flas wedi ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.

Fe aeth y gwobrau aur ac arian yn y categori Cwrw, Seidr a Pherai (o dan 10% alcohol fesur cyfaint) categori i Hurns Brewing o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus efallai fel Tomos Watkin am eu Blodwens Beer a Premier Ale. Enillydd y wobr efydd oedd Coles Family Brewery am eu Carmarthen Gold.

Yng nghategori Gwin, Gwirodydd a Diodydd Meddwol Eraill (mwy na 10% o afc) Condessa Liqueurs o Fôn cipiodd y gwobrau aur ac efydd gyda’u Sloe Gin a Gwirodlyn Hufen Cymreig Praline. Fe aeth y wobr arian i Penderyn Distillery am eu Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn.

Mae’n hefyd gwerth nodi fod Celt Experience wedi ennill y wobr arian yn y categori allforio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Mae’r Gwir Flas wedi gwneud gwaith clodwiw iawn ar gyfer y proffil ac ansawdd bwyd Cymreig, ond a’r Gwir Flas yw’r llwyfan gorau ar gyfer diodydd Cymru?

Hmm, dwi ddim yn siwr.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i hyrwyddo diodydd Cymru gan fod Gwir Flas yn or-gysylltiedig a bwyd. Prawf o hyn yw’r ffaith mai dim ond dau gategori sy’n cynnwys y diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd lle mae yna lu o rai ar gyfer bwydydd.

Os oes angen prawf pellach nad yw’r gwobrau yn ddigonol ar gyfer hyrwyddo’r diwydiant diodydd yng Nghymru, mae’r ffaith nad yw’r un seidr, perai na win wedi ennill gwobr eleni. Mae hyn yn ran mawr o’r diwydiant heb unrhyw gydnabyddiaeth.

Mae hyn yn deillio o’r ffordd ryfedd y mae’r categorïau diodydd wedi eu dylunio yn seiliedig ar gryfder alcohol. Mae hyn bron yn gyfystyr i gategoreiddio bwyd yn ôl calorïau, sydd yn hurt wrth gwrs. Mae’r ffaith ei fod yn bosibl i fragu cwrw o dros 10% ac yn gwneud gwin llai na 10% yn dangos pa mor amheus yw’r ffordd hyn o gategoreiddio.

Tybiaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl, os gofynnir iddynt, yn categoreiddio diodydd yn ôl eu math sef – cwrw, seidr, gwin, gwirodydd, gwirodydd ac ati.

I roi lle teilwng i ddiodydd yn y gwobrau fe fyddai angen creu llawer mwy o gategorïau a fuasai’n gwneud y gwobrau yn fwy anhylaw nag y maent ar hyn o bryd.

Credaf fod dau opsiwn. Symleiddio’r gwobrau fel bod pob categori yn cael pencampwr, enw gwell buasai ‘llysgennad categori’. Byddai hynny’n golygu un ar gyfer diodydd, un ar gyfer llaeth, un ar gyfer cig ac ati ac yna seremonïau categori a fyddai’n arwain i fyny at y noson fawr.

Yr opsiwn arall fyddai tynnu diodydd o’r Gwir Flas a chreu gwobr a brand penodol i ddiodydd. Byddai hyn yn adeiladu ar ac yn galluogi creu hunaniaeth neilltuol i ddiodydd Cymru, nod brand, a hyrwyddo diodydd yn seiliedig ar y gwerthoedd brand wnes i grybwyll yn fy mlog blaenorol.

Er bod y dewis cyntaf ei atyniadol, rwyf o blaid yr ail opsiwn gan ei fod yn rhoi diodydd Cymreig ar lefel gyfartal gyda bwyd, yn lle fod ei gysgod. Byddai’n helpu i greu hunaniaeth gref ar gyfer y sector diodydd yng Nghymru a gallai hefyd helpu cwmnïau ddarganfod ffyrdd i gael eu cynnyrch i’r farchnad gan fod cael gwobrwyau ei hun yn gwneud pethau eraill yn bosib fel gwobrau ar gyfer tafarndai ac ati gorau siopau, sydd orau ar hyrwyddo diodydd Cymreig. Buasai hyn yn annog eraill i ddilyn ac fe fyddai cwmnïau diodydd Cymru ar eu hennill.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru i ddod â diodydd Cymru i’r amlwg ac allan o’r cysgodion. Mae gennym gynnyrch gwych, ond, fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae maint y mwyafrif o gwmnïau yn golygu bod angen ychydig o gymorth arnynt i wireddu gwir botensial y diwydiant ac i atgyfnerthu eto delwedd Cymru fel lle gyda bwyd a diod ardderchog o’r ansawdd gorau posib. Dwi ddim yn meddwl y caiff hyn ei wireddu drwy fod yn rhan fach o wobrwyon a brand sydd wedi ei ddominyddu gan fwyd.