Yn ystod Wythnos Gwin Cymru fe es i ymweld â dwy winllan. Mwy am yr ail yn fuan ond Kerry Vale ychydig i’r de o Drefaldwyn oedd y cyntaf ar bwys Clawdd Offa.
Ond, cyn cyrraedd yno mae’r ffin yn gwneud tro go ryfedd sy’n golygu fod y winllan yn Lloegr er ei fod wedi ei amgylchynu gan Gymru ar dair ochr gyda’r ffin llai na milltir i ffwrd ar bob ochr. Serch hyn maent yn aelodau o Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru ac mae hynna’n ddigon da i mi.
Mae Kerry Vale yn winllan eithaf newydd a gafodd ei blannu yn 2010 mewn lle a oedd yn bedwar cae ynghlwm a gefail. Busnes teuluol a gychwynnwyd gan Geoff a June Ferguson sy’n berchen ar barc carafanau cyfagos ac roeddynt yn edrych am brosiect newydd i’w cadw’n brysur. Fe ddaeth ymgynghorwr i edrych ar y tir a’i farn oedd ei fod yn addas ar gyfer gwinwydd felly penderfynont roi cynnig arni. Mae eu merch Nadine hefyd yn rhan o’r prosiect ac mae nifer o wirfoddolwyr yn rhoi help llaw pan mae’n amser cynhaeafu.
Mae yna lawer o hanes yn yr ardal ac maent wedi eu lleoli ar safle hen gael Rhufeinig – Caer Pentreheyling – yn ogystal â dau wersyll ac mae nifer go lew o grochenwaith a phres wedi ei ddarganfod ac mae hyn wedi dylanwadu ar enwai rhai o’u gwinoedd.
Mae yna 6,000 o winwydd wedi eu plannu dros bum erw gan ddefnyddio system clymu’r Double Guyot a’r mathau o rawnwin a dyfir yw Rondo, Solaris a Phoenix. Mae’r gwin yn cael ei gynhyrchu yn windy Halfpenny Green yn Swydd Stafford ac mae yna bedwar o winoedd ar gael ar hyn o bryd.
Mae yna ddau win gwyn yn eu detholiad wedi eu gwneud o Solaris. Mae Shropshire Lady yn win gwyn sych tra mae Summer Days yn gymharol sych. Mae Rare Hare yn win rhosliw sydd wedi ei wneud o Rondo ac mae’r enw yn cyfeirio at lun ysgyfarnog ar y crochenwaith Rhufeinig a ddarganfuwyd ar y safle. Mae’r thema Rufeinig hefyd yn dylanwadu ar enw eu gwin coch ysgafn, Red Denarri, sydd hefyd wedi ei wneud o Rondo.
Yn mis Tachwedd fe fydd gwin pefriog wedi ei wneud o Phoenix yn ymuno a’u detholiad ac fe fydd yn ychwanegiad da.
Haf diwethaf fe agorwyd siop a chaffi. Mae’n olau ac yn awyrog gyda naws cyfoes ac mae’n cynnig prydau ysgafn, cacennau cartref, diodydd oer a phoeth ac, wrth gwrs, gwin i’w flasu neu brynu. Mae hefyd lle i gynnal lletygarwch corfforaethol.
Mae nifer o wahanol deithiau o amgylch y winllan ar gael ar ben wythnosau a gwyliau banc ond cofiwch logi lle o flaen llaw. Croesewir teithiau ar gyfer grwpiau hefyd ar wahanol amserau yn ystod yr wythnos.
Mae bwriad, efallai, i wneud eu gwin eu hunain rhywdro yn y dyfodol ond ar hyn o bryd maent yn canolbwyntio ar gael eu gwinoedd i mewn i lefydd lleol o ansawdd.
Felly, os yn yr ardal hon, gwnewch yn sicr o ymweld ag i flasu a phrynu eu gwin.