Posts Tagged ‘Gwirodlyn’

Aerona – gwirodlyn arbennig o Dwyfor

17/03/2014

Gwirodlyn yw Aerona wedi ei wneud o aeron Aronia a welodd olau dydd diolch i gyd-ddigwyddiad hapus rhwng prosiect arall gyfeirio ar gyfer ffermydd a hefyd dyfeisgarwch.

Ar fferm Rhedynog Isaf nepell o Chwilog yng Ngwynedd y caiff Aerona ei wneud gan Hazel a Gwilym Jones. Fel rhan o brosiect MENTERRA daeth yr eirin i’r fferm. Roedd y prosiect hwn yn ceisio darganfod pa gnydau a fyddai’n gallu tyfu yng Nghymru ar gyfer arall gyfeirio posib yn y dyfodol. Roedd nifer o wahanol gnydau  yn cael eu tyfu fel rhan o’r prosiect hwn ar wahanol ffermydd a’r Aronia a ddaeth i Rhedynog Isaf.

DSC04993

Pan ddaeth y prosiect i ben roedd yna 200 o goed mewn cae, felly beth i wneud gyda hwy? Nid ydynt y pethau gorau i’w bwyta o ran blas ond maent yn gryf mewn fitamin C ac antiocsidants.

Rhoddodd Hazel gynnig ar wneud cyffaith ac ati a meddyliodd am wneud gwin cefn gwlad ond, yn ddirybudd daeth y syniad i wneud gwirodlyn.

I wneud y gwirodlyn Aerona mae’r aeron yn cael eu cynaeafu dryw law diwedd yr haf hyd at yr hydref ac wedyn maent yn cael eu rhewi er mwyn eu cadw tan mae’r amser yn dod i’w defnyddio. I wneud Aerona maent yn cael eu rhoi mewn twbiau plastig gyda gwirod ynddo am dair mis mewn hen feudy. Yn ystod yr amser hwn mae’r gwirod yn torri’r aeron i lawr ac mae’r blas a’r lliw yn llifo ohonynt. Wedyn mae’n cael ei botelu, hefyd drwy law, ar y fferm.

Hazel wrthi'n potelu

Hazel wrthi’n potelu

Mae Aerona wedi bod yn llwyddiant. Mae angen ehangu ac mae beudy arall ar glos y fferm wedi ei glustnodi. Hefyd, yn ogystal â’r 200 o goed gwreiddiol mae mil ychwanegol wedi eu plannu.

Nid yw’r aeron yn cael eu taflu ar ôl potelu’r gwirodlyn, maent yn cael eu sychu ac wedyn cael eu defnyddio i wneud siocled blasus dros ben.

Aerona 006

Mae’n ymddangos y bod dyfodol disglair i Aerona.

Rhwng 9-10 ar nos Fercher 26 Mawrth rwyf am gynnal trydarflasu o Aerona, prynwch botel ac ymunwch gan ddefnyddio #diodyddcymru

Diod Cymreig Mis Hydref – Celtic Country Wines: Celteg Medieval Mead (12.0%afc)

03/10/2013

Hyd yn hyn rwyf heb roi sylw i unrhywbeth o’r category gwirod a gwirodlynau, ond mae hyn yn newid mis yma. Felly, rhywbeth hollol wahanol – medd.

Mae hen hanes o gynhyrchu medd yng Nghymru ac mae rhai cwmniau yn cynhyrchu medd heddiw. Trwy cyd-ddigwyddiad roedd stori am adfywiad o wneud medd yn yr UDA ar safwe newyddion BBC heddiw.

Mae’r medd dan sylw yn cael ei gynhyrchu gan Celtic Country Wines sydd wedi eu lleoli ger Castell Newydd Emlyn yng Ngheredigion. Maen’t yn cynhyrchu amryw o winoedd cefn gwlad (ffrwyth), gwirodlynau a “preserves”. Eisoes mae eu cynnyrch yn dod o dan yr enw ‘Celteg’ ac maen’t wedi bod wrthi ers dros 25 mlynedd ac wedi tyfu dipyn dros amser.

Rwyf heb flasu fawr o fedd yn fy amser felly rwy’n eithaf i’r blasu.

Fel arfer, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…

Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 10 Hydref rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru