Posts Tagged ‘gwin’

Gwinllan Penarth Estate

08/07/2014

Mae tŷ Penarth Fawr ar lannau’r Afon Hafren rhyw filltir i’r dwyrain o’r Drenewydd. Mae’n dyddio nôl i’r pymthegfed ganrif ac mae’n un o’r tai ‘du a gwyn’ ffram bren hyfryd sy’n nodweddiadol o Sir Drefaldwyn.

Daeth Bernard Herbert sy’n hanu o Swydd yr Amwythig, ei wraig Tanya sy’n hanu o’r Unol Daleithiau a’u plant i Benarth Fawr ar ddiwedd y 90au ar ôl gwerthu eu busnes bwyty yn yr UDA. Roeddynt eisiau bywyd gwell i’w plant a hefyd cyfle i Bernard roi cynnig ar ei ddiddordeb o geisio tyfu grawnwin er mwyn gwneud gwin.

Daeth y diddordeb hwn o wahanol dripiau i ymweld â gwinllannoedd ar hyd a lled y byd yn sgil eu busnes bwytai a barrau gwin yn Llundain. Felly dyna ddechrau ar Winllan Penarth.

Penarth2

 

Athroniaeth Bernard yw plannu mathau o rawnwin sy’n adnabyddus am ei safon.Dyna pam y penderfynodd blannu’r grawnwin sy’n cael eu defnyddio i wneud Champagne – Pinot Noir, Chardonnay a Pinot Meunier. Er i rai ddadlau na fuasent yn tyfu mor bell i’r gogledd fe gafwyd cnwd bach yn 2002. Aethant wedyn i blannu mwy o winwydd ac mae yno bellach 3 hectar.

Mae’r rhan fwyaf o’r winllan wedi ei blannu gyda’r grawnwin Champagne ond mae yna hefyd rai eraill at ddibenion arbrofol megis Cabernet Franc, Merlot, Rondo, Sauvignon Blanc ac eraill.

Be sy’n fwyaf diddorol am y winllan yw’r agwedd tuag at wneud y gwin. Yn hytrach na phenderfynu gwneud y gwin yma neu’r llall bob blwyddyn mae Bernard yn gweithio gyda’r hinsawdd.

Mewn blwyddyn arferol maent yn gwneud gwin pefriog yn unig. Mae tri gwin pefriog ganddynt bob blwyddyn ac maent i gyd yn cael eu gwneud yn y dull traddodiadol, yr union ru’n fath a Champagne. Mae un o’r gwinoedd pefriog yn gymysgedd o rawnwin Champagne, un rhosliw pefriog ac un ‘blanc de blanc’, hynny ydi gwin pefriog wedi ei wneud o Chardonnay.

Fe ddechreuodd bobl gymryd y fenter o ddifrif ar ddiwedd yr 00au pan enillodd eu gwin pefriog wobr Decanter, sef y cylchgrawn gwin enwog.  Ers hynny mae eu gwin pefriog rhosliw hefyd wedi ennill gwobr.

Pan mae’r cynhaeaf yn dda maent yn gwneud gwin llonydd a pan mae’r tywydd yn wael mae’r holl gynnyrch yn cael ei droi’n frandi, yr unig frandi sydd wedi ei wneud o rawnwin yng Nghymru.

Yn Three Choirs a Halfpenny Green mae’r gwin yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac yn Llwydlo mae’r brandi yn cael ei ddistyllu.

image

Mae cael y busnesau yn Llundain yn hwb mawr oherwydd mae ganddynt farchnad barod i’w gwin. Yno maent yn gwerthu eu gwinoedd pefriog tra’n cadw eu gwinoedd llonydd i’r farchnad leol. Mae’r gwinoedd pefriog i gael yn lleol hefyd wrth gwrs.

Does dim cynllun i ehangu maint y winllan yn y dyfodol oherwydd y cam nesaf fyddai gwerthu trwy’r archfarchnadoedd. Golygai hynna dipyn go lew fwy o gynnyrch ond, gan eu bod yn gystadleuol, nid yw’r arian y buasent yn eu cael am hyn yn werth y buddsoddiad ym marn Bernard.

Er hynny mae cynlluniau diddorol am y dyfodol. Ar hyn o bryd mae warws aeddfedu yn cael ei adeiladu o fyrnau gwellt wedi gorchuddio a chalch. Mae’r dyluniad diddorol hwn yn cadw’r ‘seler’ tua 10˚C trwy’r flwyddyn. Yn olaf, mae cynllun arfaethedig i godi gwindy fel eu bod yn gallu troi eu grawnwin yn win ar y safle.

PenarthBottles

Mae’n bosib ymweld â’r winllan o bryd i’w gilydd ond mae angen cysylltu â nhw o flaen llaw i drefnu. Serch hynny, mae eu cynnyrch ar gael yn lleol yn siop hyfryd Quinces of Newtown.

Gyda thywydd da yn 2013 efallai bydd gwinoedd diddorol ar gael eleni, mae’r penderfyniad o beth i wneud a’r gwin sy’n prysur aeddfedu ar fin cael ei wneud, cawn weld yn fuan beth fydd y 2013 vintage o Benarth.

Advertisements

Wythnos Gwin Cymru 2014

20/05/2014

Mae Wythnos Win Cymru ar fin cychwyn a mae’n dechrau ar dydd Sadwrn 24 Mai. Yn wahanol i’r blynyddoedd diweddar nid oes lansiad swyddogol i’w weld yn digwydd sy’n siomedig gan ei fod yn gyfle i hysbysu’r Wythnos ar y cyd. Roedd hefyd yn rhoi’r holl ddigwyddiadau yn y wahanol winllanoedd mewn un lle ac felly’n hawdd darganfod be oedd ymlaen ledled Cymru.

Ta waeth, mae un digwyddiad gwerth chweil yn digwydd yn Sir Fynwy ar y 26ain o Fai. Taith a blasu gwin o Ancre Hill a White Castle. Am fwy o fanylion gweler yma.

welsh wine week

Fyddai i yn gobeithio ymweld a dwy winllan yn y Canolbarth sef Kerry Vale ar bwys Ystôg a Penarth Vineyard ger y Drenewydd. Fe fydd adroddiadau llawn ar y blog yn fuan.

Felly, achubwch ar y cyfle a ewch i ymweld a’ch gwinllan lleol, mae na win da yng Nghymru’r dyddie hyn a pryd well na Wythnos Win Cymru i’w flasu.

Gwobrwyon Cymdeithas Gwinllanoedd Cymru 2013

24/11/2013

Yn ddiweddar fe gynhaliwyd Gwobrwyon Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru am y tro cyntaf erioed yng Ngwinllan Llanerch  ym Mro Morgannwg. Cofrestrwyd 35 o winoedd am y gystadleuaeth ac fe rannwyd yn dri dosbarth – Llonydd Gwyn neu Rhosliw, Coch, a Pefriog.

Mae’n wych gweld cystadleuaeth o’r fath yn digwydd, mae gwobrau credadwy yn bwysig iawn ar gyfer y diwydiant diodydd gan eu bod yn rhoi dipyn go lew o hwb marchnata i’r enillwyr

A oedd y gwobrau hyn yn rai credadwy? Oeddynt yn sicr. Does dim ond rhaid edrych ar y beirniaid. Roger Jones oedd yn cadeirio, cogydd gyda seren Michelin i’w enw ac yn uwch farnwr yng Ngwobrau World Wine Awards y cylchgrawn Decanter. Hefyd yn beirniadu oedd Bill Gunn, cyn-Reolwr Gyfarwyddwr y cynhyrchydd enwog Champagne Pol Roger a Julie Bell o’r Felin Fach Griffin ger Aberhonddu.

Y beirniaid wrth eu gwaith

Y beirniaid wrth eu gwaith

Cafodd y gwinoedd eu blasu heb weld y cynhyrchwyr a’u marcio gan ddefnyddio’r un fformat â gwobrau Decanter.

Un wobr aur a ddyfarnwyd ac fe aeth at y Diod y Mis – Ancre Hill Estates Sparkling Rosé 2009.

Yn y dosbarth Gwinoedd Llonydd gwyn neu rhosliw fe ddyfarnwyd dwy fedal arian ac fe aethant i Tintern Parva o Sir Fynwy. Un ar gyfer eu Bacchus 2011 ac un i Bwthyn Rose 2011. Rwyf wedi blasu’r olaf ac mae’n win rhosliw gwych. Hefyd, fe ddyfarnwyd pum gwobr efydd.

Roedd dwy fedal arian hefyd yn y Dosbarth Gwin Coch ac fe aethant i Ancre Hill Estates ar gyfer eu Pinot Noir yn 2009 a 2011. Dim syndod, gwinoedd gwych. Dwy fedal efydd y dyfarnwyd yn y dosbarth hwn.

Yn olaf, yn ogystal â chael y wobr aur yn y Dosbarth Gwin Pefriog, fe gaeth Ancre Hill hefyd wobr arian ar gyfer eu Sparkling White 2008. Hwn oedd y dosbarth cryfaf gyda chymaint ag wyth efydd yn cael ei ddyfarnu.

Digon o winoedd Cymreig gwych ar gael felly ac mae’n glod i’r Gymdeithas eu bod wedi cychwyn beth ddylai dyfu i fod yn ddyddiad pwysig ar gyfer gwinoedd Cymreig ac am ei ddechrau gyda phanel cryf o feirniaid.

Perchnogion gwinllanoedd Cymru yn ymgynull ar gyfer y gwobrwyon

Perchnogion gwinllanoedd Cymru yn ymgynull ar gyfer y gwobrwyon

Siaradodd y cadeirydd ar ran y panel am safon y gwin Cymru gan ddatgan eu bod ” yn hapus iawn gyda’r gwinoedd a chredaf y dylid y gwinoedd hyn cael eu barnu nid yn unig yn erbyn Lloegr ond ar lwyfan y byd”.

A dyna’r union beth fydd yn digwydd yn ôl â Richard Morris o Ancre Hill a chadeirydd y Gymdeithas – “Mae cyfle enfawr i’r diwydiant gwin yng Nghymru i ddatblygu ac ein nod yw gwneud y gystadleuaeth Gymreig hon yn ddigwyddiad rhyngwladol, drwy ei wneud yn rhyngwladol bydd gwin Cymru, drwy gysylltiad, yn cael ei gydnabod fel o safon fyd-eang”.

Mae hyn yn wych ond yr wyf yn gobeithio, fel rhan o ddigwyddiad rhyngwladol, y bydd gwinoedd Cymru yn cael eu categori ei hun fel bod rhywun, bob blwyddyn, yn gallu dweud ‘rydym yn gwneud y gwin gorau yng Nghymru’.

Crynhowyd y potensial ar gyfer gwin Cymru yn dda gan Mr Morris. “Rydym yn gyffrous iawn am ddyfodol y diwydiant gwin yng Nghymru. Rydym mewn sefyllfa debyg i’r un a oedd diwydiant Seland Newydd ynddi 50 mlynedd yn ôl ac sydd heddiw gyda marchnad allforio gwerth un biliwn o ddoleri NZ y ​​flwyddyn ac yn cefnogi 20,000 o swyddi, “meddai Mr Morris

Os byddai gwin Cymru yn cael unrhyw le yn agos at hyn fe fyddai’n wych, ond mae pethau yn sicr yn mynd i’r cyfeiriad iawn y dyddiau hyn. Pob lwc!

Diod Cymreig Mis Tachwedd – Ancre Hill Estates: Sparkling Rose 2009 (11.5%afc)

05/11/2013

Mae gwinoedd pefriog yn gyfystyr â tymor y Nadolig a be well na gwin pefriog Cymreig, yn enwedig un sydd a medal aur i’w enw.

Ancre Hill Sparkling Rose 2009

Fe gynhaliwyd gwobrwyon cyntaf Cymdeithas Gwinllanoedd Cymru yn ddiweddar, fe rof sylw i hwn nes ‘mlaen yn y mis, a fe ddaeth Sparkling Rose 2009 Ancre Hill i’r brig.

Rydym eisoes wedi blasu eu Chardonnay, nawr beth am eu gwin pefriog rhosliw sych gyda Pinot Noir yn gwneud dwy ran o dair o’r cymysgedd a Chardonnay y gweddill.

Felly, a fyddem yn cynnig gwin pefriog Cymreig y Nadolig hwn? Fel arfer, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…

Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 21 Tachwedd rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru

Diod y mis Mehefin 2013: Ancre Hill Estates – Chardonnay 2010 (11% afc)

02/06/2013

Gyda Wythnos Win Cymru 2013 yn dod i ben meddyliais y buasai’n syniad blasu un o winoedd ein diwydiant gwin sy’n brysur tyfu.

Gwynedd-20130612-00116Mae’n debyg mai Ancre Hill Estates yw ein gwinllan blaenllaw ac maen’t wedi eu lleoli ar gyrion Trefynwy. Fel y soniais ar y blog yn ddiweddar, maen’t wedi ennill y Bollicine Del Mondo ar gyfer eu gwin gwyn pefriog, buddigoliaeth hynod wych.

Hefyd maen’t yn dilyn egwyddorion biodynamig  ac wrthi yn datblygu gwindy, neu gynhyrchfa win, a fydd y cyntaf yng Nghymru.

Mae Chardonnay 2010 yn ganlyniad o dywydd tyfu gwych. O ran ei gynhyrchu, fe gafodd dri-chwarter o’r gwin ei eplesu mewn tanc dur di-staen a’r gweddill mewn casgenni derw Ffrening am chwe mis.

Disgwyliaf i’r casgenni derw Ffrening gyfrannu rhywbeth i’r blas, fe gawn weld.

Felly, mae dwy ffordd i fwynhau diod y mis ond mae’n anghenrheidiol cael potel o Ancre Hill Chardonnay 2010 yn gyntaf wrth gwrs!

Yfwch yn eich amser eich hun a chyfrannwch eich sylwadau ar y blog a/neu…

Ymunwch a’r sesiwn trydarflasu yn fyw ar ddydd Iau 13ed Mehefin rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru

Wythnos Gwin Cymru ar y gorwel

23/05/2013

Mae bron yn amser Wythnos Gwin Cymru felly beth yw sefyllfa gwin yng Nghymru.

Mae gan win dipyn o hanes yng Nghymru, hanes sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Fel y gellid disgwyl o ffrwyth sy’n ffynnu mewn hinsoddau cynhesach, mae gwinllannoedd Cymru bennaf yn y De ond mae gwinllannoedd i’w canfod yn y Canolbarth, Gorllewin a’r Gogledd Cymru.

Glyndwr (3)

Gwinllan Glyndwr, Bro Morgannwg, un o’r hynaf yng Nghymru

O’i gymharu â gweddill diwydiant diodydd Cymru, mae gwin ychydig ar ei hol hi o ran ei ddatblygiad ac yn llai adnabyddus i’r rhan fwyaf o yfwyr.

Yn ôl y disgwyl, mae hinsawdd yn chwarae rhan yn hyn, ond mae yna ffactorau eraill. Yn hanesyddol mae’r  hinsawdd wedi golygu bod y diffyg siwgr yn y grawnwin ac mae hyn yn arwain at yr angen am ychwanegu siwgr , techneg a elwid yn ‘chaptelisation’. Gall yr arfer hwn yn arwain at lai o blas a hefyd gwin sydd braidd yn ‘denau’. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith ar ansawdd y cynnyrch a’i ddelwedd ymysg yfwyr.

Oherwydd yr hinsawdd mae yna ddibyniaeth wedi bod ar fathau Almaeneg o rawnwin gydag enwau anghyfarwydd. Rhyw   beth arall sydd ddim yn cynorthwyo delwedd gwin Cymru ymysg yfwyr. Yn fyr, mae gwerthu gwin Cymreig wedi bod yn dalcen eithaf called.

Ond mae pethau’n dechrau newid.

Wrth i’n gwinllannoedd aeddfedu mae ansawdd y gwin yn gwella ac mae rhai gwneuthurwyr gwin  hefyd yn dechrau plannu mathau o rawnwin mwy cyfarwydd. Er nid y winllan hynaf yng Nghymru, Ancre Hill yn Sir Fynwy sydd bellach yn arwain y ffordd. Yn ddiweddar dyfarnwyd eu gwin gwyn pefriog yn y gwin gwyn pefriog orau yn wobrwyau pwysig Bollicine Del Mondo yn yr Eidal gan guro enwogion fel Champagne Bollinger, tipyn o gamp.

Mae hyn yn wych i’r diwydiant gwin yng Nghymru ac yn wir ei angen.

Ancre Hill (2)

Gwinllan Ancre Hill, Sir Fynwy

Er mwyn datblygu’r diwydiant gwin Cymreig ymhellach y pwynt allweddol i’w gofio yw’r tebygrwydd na fydd Cymru yn nofio mewn gwin, rhan gymharol fach o’n diwydiant diodydd fydd gwin. Felly, lle da i ddechrau buasai dysgu o wlad debyg sydd wedi cyflawni gwyrthiau gyda’i diwydiant gwin – Seland Newydd.

Cynhyrchydd cymharol fach yw Seland Newydd hefyd, felly mae ‘r cynhyrchwyr yno wedi canolbwyntio ar ansawdd eu gwin yn hytrach na chynhyrchu lot o win. Fe fydd canolbwyntio ar wella ansawdd ein gwin yn allweddol hefyd i ddatblygu’r diwydiant yng Nghymru hefyd. Fodd bynnag, dim ond un ochr i’r geiniog yw hynna, ond mae’n cael un canlyniad pwysig sy’n hanfodol i danseilio rhwystr arall – y ddelwedd ymysg yfwyr.

Mae’n rhaid i win Cymru oresgyn yfwyr sydd ddim yn reddfol yn credu fod gwin Cymreig yn werth ei ystyried. Mae newid y ddelwedd yma yn gam sylfaenol. Gall wella ansawdd arwain at ennill fwy o wobrau.

Mae ennill gwobrau yn creu gwell ddelwedd a chanfyddiad o ansawdd, mae angen ennill mwy a gweiddi’n uchel pob tro yr ydym yn ennill.

Dyma ochr arall y geiniog – marchnata. Mae angen gwella’r capasiti marchnata. Mae gan wledydd llwyddiannus y ‘byd newydd’ byrddau hyrwyddo o un fath neu’r llall sy’n cynrychioli’r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Mae Cymru angen rhywbeth fel hyn i symud ymlaen.

Mae’r ffaith bod gwinllannoedd Cymru yn ddiweddar wedi ymuno â’i gilydd i ffurfio Gymdeithas Gwinllannoedd Cymru yn ddatblygiad addawol ac yn un sydd ei wir angen.

29.04.13 mh Welsh Wines 26

Rhai o gynhyrchwyr gwin Cymru

Richard Morris o Ancre Hill sydd wedi dod a hyn at ei gilydd a dywedodd yntau “Canfyddiad cyffredinol cyhoedd yn y DU yw na allwn wneud gwinoedd o safon yng Nghymru. Mae hynny’n anghywir oherwydd bod ansawdd llawer o winoedd Cymreig yn dda iawn, ond mae angen hyrwyddo llawer gwell. Nid oes unrhyw amheuaeth, rydym yn mynd i fod yn llawer cryfach drwy weithio gyda’n gilydd i greu enw da ar gyfer gwin o safon yng Nghymru. Mae angen help i hyrwyddo ein busnesau.’

Mae barn debyg gan Alun Davies AC, Gweinidog ar gyfer Adnoddau Naturiol a Bwyd sydd hefyd yn gweld y potensial mewn cynhyrchwyr gwin yn ymuno gyda’i gilydd a dywedodd “mae’n galonogol gweld cynhyrchwyr yn cydweithio gyda’i gilydd i ffurfio Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru. O ran ansawdd a photensial, mae gwin Cymru yn sicr yn gwneud enw iddo’i hun gartref a thramor”.

Mae angen gweithgaredd hyrwyddo i fanteisio ar bob cyfle ac mae Wythnos Gwin Cymru yn allweddol. Mae’r digwyddiad y flwyddyn hon wedi ei hyrwyddo’n well nac yn y gorffennol ac wedi dechrau gyda mwy o gydlynu. Mae hyn yn ddechrau addawol.

Parva farm (3)

Gwinllan Parva Farm, Sir Fynwy

Mae Wythnos Gwin Cymru yn gyfle gwych i gael pobl i roi cynnig ar flasu gwin Cymreig a hefyd i  ymweld â gwinllan, ond gallai fod yn fwy na hynny. Mae angen ei ddatblygu er mwyn creu cyffro o amgylch y cynnyrch ac i greu ‘marketing collateral’. Nid wyf am ddatblygu fy syniadau ymhellach yma, ond digon yw dweud mai yna nifer o bethau y gellid ei wneud i hyrwyddo gwin Cymru yn fwy byth.

Dyddiadau Wythnos Gwin Cymru yw 26 Mai i 2 Mehefin, felly beth sy’n digwydd?

Mae Taith Win Cymru wedi ei lansio i hyrwyddo twristiaeth gwin gyda gwefan a thaflen.

Hefyd fe fydd llawer o’r 17 gwinllan yn agor i’r cyhoedd ar gyfer ymweliadau ac mae Blas ar Fwyd o Lanrwst yn cynnig cludiant am ddim tan ddiwedd Mehefin i gwsmeriaid sydd eisiau prynu hanner box cymysg – sef chwe photel – o win Cymreig.

Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dathlu Wythnos Win Cymru drwy ymweld â gwinllan a phrynu rhai o’n gwinoedd gwych.

Gwir Flas Diodydd Cymru?

08/11/2012

Gwyriad o fy nghynllun gwreiddiol i edrych ar bob categori yn niwydiant diodydd Cymru gan fod seremoni wobrwyo Cymru Y Gwir Flas wedi ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.

Fe aeth y gwobrau aur ac arian yn y categori Cwrw, Seidr a Pherai (o dan 10% alcohol fesur cyfaint) categori i Hurns Brewing o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus efallai fel Tomos Watkin am eu Blodwens Beer a Premier Ale. Enillydd y wobr efydd oedd Coles Family Brewery am eu Carmarthen Gold.

Yng nghategori Gwin, Gwirodydd a Diodydd Meddwol Eraill (mwy na 10% o afc) Condessa Liqueurs o Fôn cipiodd y gwobrau aur ac efydd gyda’u Sloe Gin a Gwirodlyn Hufen Cymreig Praline. Fe aeth y wobr arian i Penderyn Distillery am eu Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn.

Mae’n hefyd gwerth nodi fod Celt Experience wedi ennill y wobr arian yn y categori allforio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Mae’r Gwir Flas wedi gwneud gwaith clodwiw iawn ar gyfer y proffil ac ansawdd bwyd Cymreig, ond a’r Gwir Flas yw’r llwyfan gorau ar gyfer diodydd Cymru?

Hmm, dwi ddim yn siwr.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i hyrwyddo diodydd Cymru gan fod Gwir Flas yn or-gysylltiedig a bwyd. Prawf o hyn yw’r ffaith mai dim ond dau gategori sy’n cynnwys y diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd lle mae yna lu o rai ar gyfer bwydydd.

Os oes angen prawf pellach nad yw’r gwobrau yn ddigonol ar gyfer hyrwyddo’r diwydiant diodydd yng Nghymru, mae’r ffaith nad yw’r un seidr, perai na win wedi ennill gwobr eleni. Mae hyn yn ran mawr o’r diwydiant heb unrhyw gydnabyddiaeth.

Mae hyn yn deillio o’r ffordd ryfedd y mae’r categorïau diodydd wedi eu dylunio yn seiliedig ar gryfder alcohol. Mae hyn bron yn gyfystyr i gategoreiddio bwyd yn ôl calorïau, sydd yn hurt wrth gwrs. Mae’r ffaith ei fod yn bosibl i fragu cwrw o dros 10% ac yn gwneud gwin llai na 10% yn dangos pa mor amheus yw’r ffordd hyn o gategoreiddio.

Tybiaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl, os gofynnir iddynt, yn categoreiddio diodydd yn ôl eu math sef – cwrw, seidr, gwin, gwirodydd, gwirodydd ac ati.

I roi lle teilwng i ddiodydd yn y gwobrau fe fyddai angen creu llawer mwy o gategorïau a fuasai’n gwneud y gwobrau yn fwy anhylaw nag y maent ar hyn o bryd.

Credaf fod dau opsiwn. Symleiddio’r gwobrau fel bod pob categori yn cael pencampwr, enw gwell buasai ‘llysgennad categori’. Byddai hynny’n golygu un ar gyfer diodydd, un ar gyfer llaeth, un ar gyfer cig ac ati ac yna seremonïau categori a fyddai’n arwain i fyny at y noson fawr.

Yr opsiwn arall fyddai tynnu diodydd o’r Gwir Flas a chreu gwobr a brand penodol i ddiodydd. Byddai hyn yn adeiladu ar ac yn galluogi creu hunaniaeth neilltuol i ddiodydd Cymru, nod brand, a hyrwyddo diodydd yn seiliedig ar y gwerthoedd brand wnes i grybwyll yn fy mlog blaenorol.

Er bod y dewis cyntaf ei atyniadol, rwyf o blaid yr ail opsiwn gan ei fod yn rhoi diodydd Cymreig ar lefel gyfartal gyda bwyd, yn lle fod ei gysgod. Byddai’n helpu i greu hunaniaeth gref ar gyfer y sector diodydd yng Nghymru a gallai hefyd helpu cwmnïau ddarganfod ffyrdd i gael eu cynnyrch i’r farchnad gan fod cael gwobrwyau ei hun yn gwneud pethau eraill yn bosib fel gwobrau ar gyfer tafarndai ac ati gorau siopau, sydd orau ar hyrwyddo diodydd Cymreig. Buasai hyn yn annog eraill i ddilyn ac fe fyddai cwmnïau diodydd Cymru ar eu hennill.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru i ddod â diodydd Cymru i’r amlwg ac allan o’r cysgodion. Mae gennym gynnyrch gwych, ond, fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae maint y mwyafrif o gwmnïau yn golygu bod angen ychydig o gymorth arnynt i wireddu gwir botensial y diwydiant ac i atgyfnerthu eto delwedd Cymru fel lle gyda bwyd a diod ardderchog o’r ansawdd gorau posib. Dwi ddim yn meddwl y caiff hyn ei wireddu drwy fod yn rhan fach o wobrwyon a brand sydd wedi ei ddominyddu gan fwyd.