Posts Tagged ‘cwrw’

Diod y Mis Gorffennaf 2013: Hurns Brewing Company – Blodwen’s Beer (5.0%afc)

01/07/2013

Fe ennillodd Blodwen’s Beer gan Tomos Watkin y wobr aur yn Cymru Y Gwir Flas llynnedd.

TomosWatkinBlodwen

Y Prif Fragwr yw Alex Cunningham  ac fe ddyluniodd y cwrw yma i’r darn yna o’r farchnad sydd rwng lager a chwrw, er dywed ef ‘ei fod yn bendant yn gwrw’.

Mae’n cael ei fragu gan ddefnyddio haidd brag lager fel ei fod gorffen llyfn arno ac nid oes lawer o hopys yn cael ei ddefnyddio.

Mae Alex yn ei ddisgrifio fel cwrw llyfn a golau ei liw a dyma’n union fuasai rhywun yn ei ddisgwyl gyda mymryn o gyfraniad blas gan yr haidd brag lager a ddim llawer o chwerwder gan nad oes fawr o hopys ynddo.

Wel, beth ydych chi’n ei feddwl?

Prynwch botel neu ddau a gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…

Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 11 Gorffennaf rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru

Hurns Brewing Company

26/06/2013

Efallai na fydd ‘Hurns Brewing Company’ yn enw cyfarwydd iawn ond tybiaf bod Tomos Watkin yn ddipyn mwy cyfarwydd. Y cysylltiad rhwng y ddau yw bod cwrw Hurns yn cael eu gwerthu o dan y brand Tomos Watkin.

Enillodd dau gwrw Tomos Watkin tlysau aur ac efydd yng ngwobrau Gwir Flas y llynedd ond dechreuodd y cyfan pan brynodd tîm brawd a chwaer fragdy gan y derbynnydd yn ôl yn 2002. Roeddynt eisoes yn berchen ar gwmni cyfanwerthu a dosbarthu ac fe brynwyd y bragdy fel ‘naid ffydd’.

Ystod o'u diodydd

Ystod o’u diodydd

Roedd bod yn berchen ar gwmni cyfanwerthu yn galluogi iddynt ddosbarthu eu cynnyrch a hefyd tîm marchnata, dechrau da ar gyfer unrhyw fragwr newydd.

Ond pam ymgymryd â’r her o fragdy a oedd wedi methu? Yr ateb mewn gair yw angerdd. Maent yn angerddol am Gymru a’i bwyd a diod, credant y gall ein bwyd a diod sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r gorau yn y byd. Roeddent yn teimlo y dylai cwrw Cymreig hefyd yn cael y gydnabyddiaeth uchaf am ei ansawdd a bod Cymru yn haeddu cwrw gwych a oedd yn ‘cynnyrch waith llaw grefftus’ – dyma pam anwyd Tomos Watkin.

Ers 2002 mae’r cwmni a’u cynnyrch wedi tyfu i’r fath raddau fel bod ganddynt bellach gontractau ledled y byd. Mae buddsoddiad diweddar wedi gweld swm chwe ffigur yn cael ei wario ar waith potelu a phecynnu newydd sy’n dangos hyder yn y dyfodol ac mae eu cwrw yn dechrau gweld mwy o ddosbarthiad yng Nghymru ac yn y DU, er enghraifft mae bragwyr Fuller’s o Lundain newydd gymryd eu cwrw.

Mae Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn amlwg yn eu brandio. Maent yn bragu ystod eang o gwrw mewn casgen, ceg a photel ac mae ganddynt hefyd amrywiaeth mawr o gwrw tymhorol a seidr. Bydd blog arall yn y dyfodol yn ymdrin â’u cwrw buddugol, ond, am y tro, mae’n wych gweld stori lwyddiant arall o fragu Cymreig.

Mws Piws yn Ehangu

18/06/2013

Mae arwydd pellach o ffyniant bragdai Cymru i’w weld ym Mragdy’r Mws Piws ym Mhorthmadog.

Dechreuodd Mws Piws nol yn 2005. Mae’r bennod ddiweddaraf yn eu hanes yn gweld prosiect i ehangu eu gallu cynhyrchu i liniaru cyfyngiadau capasiti i ateb y galw presennol am eu cwrw a hefyd i’w galluogi i ehangu ymhellach. Maent yn cynyddu maint eu bragdy o’r ddeg casgen bresennol i 40 casgen.

Tu mewn i'r bragdy

Tu mewn i’r bragdy

Bydd hyn yn caniatáu Mws Piws i gynyddu argaeledd eu cwrw, sydd wedi ennill sawl gwobr, yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain. Mae hefyd yn golygu eu bod yn gallu dechrau allforio eu cwrw potel. Y cynllun cyfredol yw cynyddu bragu eu hystod bresennol o gwrw yn hytrach na ychwanegu cwrw newydd. Un canlyniad yw bod Ysgawen, cwrw blodau ysgaw, am fod ar gael drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na’n gwrw tymhorol.

Rheolwr Gyfarwyddwr Lawrence Washington y tu ol i'r bar

Rheolwr Gyfarwyddwr Lawrence Washington y tu ol i’r bar

Mae cymorth ariannol wedi dod o Gronfa Fuddsoddi Leol Cyngor Gwynedd ac mae un swydd newydd wedi cael ei greu yn syth gan gynyddu maint eu tîm gwerthu. Mae’r ehangu hefyd yn debygol o greu swyddi newydd pellach yn y dyfodol. Ar y cyfan mae hyn yn newyddion da iawn i fragu yng Nghymru ac i Borthmadog.

Diod y mis Mai 2013: Bragdy’r Profiad Celtaidd – Golden Celt

02/05/2013

Mae hi’n wanwyn meddai nhw ac efallai bod gobaith am dywydd cynhesach rhyw dro’n fuan felly penderfynais fynd am gwrw euraidd o un o enillwyr Cymru Y Gwir Flas. Mae Bragdy’r Profiad Celtaidd wedi’i leoli yng Nghaerffili ac fe enillon wobr arian yn y category allforio.

Mae Golden Celt yn gwrw euraidd organig ac, fel y dywedir ar y label, mae’r enw yn coffau oes aur y Celtiaid. Mae’n rhan o’u cwrw craidd ac mae fideo gwych (yn saesneg) o sylfaenydd Celt, Tom Newman, yn trafod y cwrw ar eu gwefan.

GoldenCeltPic

Mae gan Golden Celt liw euraidd hyfryd. Y peth cyntaf sy’n taro rhywun ar yr arogl yw’r hopys. Mae arogl sitrws cryf yn dod o’r hopys ac mae hefyd iddo flas siarp. Mae’n gorffen gyda blas chwerw sy’n parhau’n y ceg. Cwrw da i dorri’r syched ac mae iddo fwy o gymeriad na nifer o gwrw euraidd eraill. Cwrw da iawn.

Hefyd, os oes botel gennych neu os fyddwch mewn tafarn sy’n gwerthu Golden Celt ar ddydd Iau 9 Mai rhwch 9-10yh ymunwch a sesiwn blasu yn fyw ar trydar gan ddefnyddio #diodyddcymru

Coles Family Brewery

08/04/2013

Fe ennillodd bragdy Coles Family Brewery wobr arian Cymru Y Gwir Flas eleni. Er ei fod yn fragdy, seidr yw Carmarthenshire Gold a ennillodd y wobr iddynt, mwy o hynny nes ymlaen.

Mae’r bragdy wedi’i leoli yn nhafarn y White Heart yn Llanddarog sydd i’r dwyrain o Gaerfyrddin ar yr A48 tuag at Cross Hands. Mae’r White Heart yn dy tafarn hynafol gyda tho gwellt hardd, ac os nad ydych erioed wedi bod yno, gallwch fynd ar daith rithiol. Tan yn ddiweddar, roedd y bragdy yn un bach ‘un-gasgen’ (one-barrel) yn y dafarn ei hun. Ond maen’t wedi ehangu a creu bragdy mwy ‘pedair-casgen’ (four barrel plant) mewn adeilad yr ochr arall eu maes parcio. I weld y Coles Family Brewery wrth eu gwaith gwyliwch y fideo yma sy’n mynd a chi drwy’r holl broses fragu.

Fe ddechreuont fragu yn y bragdy bach gwreiddiol yn 1999 er mwyn cyflenwi’r dafarn yn unig. Ond, gydag agor y bragdy newydd ym mis Ionawr gallant ddechrau cyflenwi tafarnau eraill ac hefyd dosbarthu eu cwrw potel yn ehangach.

Fe fydd y bragdy mwy yn cynhyrchu eu prif gwrw sef Cwrw Blasus, eu chwerw, Llanddarog, chwerw tywyll frown, Swn y Dail sy’n cael ei fragu gyda hopys o’r Unol Dalieithau a Merlin Stout.

Bydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofiadau bragu a fydd, os yn boblogaidd, yn cael ei wneud ar raddfa fwy yn y bragdy mawr. Hefyd fe fydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio i fragu eu cwrw arbenigol tymhorol. Maen’t wedi cynhyrch nifer o gwrw arbenigol gan ddefnyddio pob math o gynhwysion megis betys, danadl poethion a stowt licris

Digon yma ar gyfer  yfwyr cwrw felly, ond maent hefyd yn gwneud seidr yn ystod y tymor cynhaeafu afalau. Maent yn gwneud pedwar seidr o sych i felys a hefyd seidr pefriog mewn arddull champagne gan ddefnyddio’r math Gala, sef afal bwdin. Mae’r ffaith nad ydynt bob amser yn defnyddio afalau seidr yn gwneud Coles ychydig yn wahanol i lawer o wneuthuwyr seidr eraill yng Nghymru. Mae pob un o’r afalau yn cyrraedd fel afal cyfan ac yn cael eu gwasgu i mewn sudd, eplesu ac yn aeddfedu ar y safle fel y gwelir yn y clip bach hwn o wneud seidr.

Mae rhai o’u afalau’n lleol ond maen’t hefyd yn cael rhai o fannau eraill gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr. Dibynnir hyn ar faint o hael yw’r cynhaeaf leol.

Seidr sych-ganolig yw Carmarthenshire Gold itself a wneir gan ddefnyddio afalau pwdig a rhai coginio. Gan nad oes afalau seidr yn cael eu defnyddio ni fydd ‘tannin’ yn y seidr gorffenedig ond fe fydd yn eithaf siarp oherwydd yr afalau coginio.

Felly, tro nesaf y byddwch yn i lawr y ffordd honno gwnewch yn siŵr o alw mewn i fwynhau’r dafarn wych yma a’u cwrw a seidr ardderchog. Er bod y dafarn yn bendant yn werth yr ymweliad, gobeithio y bydd argaeledd ehangach  yn golygu bod eu cynnyrch yn cyrraedd cynulleidfa ehangach yn y dyfodol agos, a fyddai’n hynny’n newyddion gwych.

Cwrw Cymru

24/01/2013

Yn ddi-os, cwrw yw’r categori diodydd cryfaf yng Nghymru. Ar y cyfrif diwethaf, roedd tua 50 o fragdai yng Nghymru, y nifer mwyaf ers peth amser. Ar un adeg roedd digonedd o fragwyr lleol ond roedd cryn ddirywiad yn y diwydiant yn sgil yr adfywiad crefyddol a hefyd bragwyr mawr dros y ffin yn prynu, ac mewn nifer o achosion yn cau, bragdai yng Nghymru.

Yn ffodus, fel y dengys y ffigurau, mae’r duedd hon wedi ei lwyr wyrdroi a cwrw, heb os nac oni bai yw diod cenedlaethol Cymru.

Brains yw’r bragwr mwyaf ac yn wir y cynhyrchydd diodydd mwyaf yng Nghymru o bell ffordd. Maent yn berchen ar nifer o dafarndai ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gwrw. Maent yn cynhyrchu rhai o’n enwau mwyaf adnabyddus megis Brains Dark a SA Brain. Ond nid ydynt yn fodlon eistedd ar eu rhwyfau gan eu bod wedi mynd ati’n ddiweddar i fragu cyfres arloesol o gwrw grefft. Gwych yn wir, mae hyn yn dangos fod arloesed yn fyw ac yn iach hyd yn oed ym mragwr mwyaf Cymru.

Er mai Brains yw’r mwyaf nid nhw yw’r hynaf. Mae cysylltiad â’r traddodiad bragu yng Nghymru i’w gael i’r gorllewin yn Llanelli ym mragdy Felinfoel sy’n dyddio’n ôl i’r 1830au.

Ar wahân i Brains, mae’r cynhyrchwyr eraill gryn dipyn yn llai, ond mae rhai yn awyddus i ledaenu eu cwrw yn eang tra bod eraill yn hapus i gadw eu ffocws yn lleol.

Mae nodi’r enwau blaenllaw yn dangos faint y mae bragu wedi ei ledaenu ar draws Cymru. Gan ddechrau yn y de mae bragdy Rhymney, Y Profiad Celtaidd a Otley. Ar wahân i Felinfoel mae’r gorllewin yn gartref i Tomos Watkin yn Abertawe, Evan Evans yn Llandeilo sydd yn berchen gan Simon Buckley, y 7ed cenhedlaeth o fragwyr – pwy sy’n cofio Crown Buckley? Hefyd yn y gorllewin mae Coles Family Brewery yn Sir Gâr.

Yng nghanolbarth Cymru mae bragdy Monty’s yn Sir Drefaldwyn a bragdai Breconshire a Brecon yn ne Powys, ond i enwi tri. Mae pedwar o fragwyr mwyaf Gogledd Cymru – Bragdy Nant, Conwy, Bragdy’r Gogarth a Mŵs Piws wedi dod at ei gilydd i agor yr Albion Ale House yng Nghonwy, menter unigryw a thafarn sydd yn haeddu’r clod a’r gwobrau lu y mae wedi ei gael.

Ymddiheuriadau i’r holl fragdai eraill nad ydynt wedi eu henwi ar y daith wib uchod, os hoffech chi i ymddangos ar y blog, mae croeso i chwi gysylltu â mi.

Ledled Cymru mae yna dafarnau gwych i fwynhau cynnyrch ein bragdai felly, pan ddaw i gwrw, ta waeth ble yr ydych yng Nghymru, ni fyddwch ymhell o fragdy neu gyfle i flasu eu cwrw.

Gwir Flas Diodydd Cymru?

08/11/2012

Gwyriad o fy nghynllun gwreiddiol i edrych ar bob categori yn niwydiant diodydd Cymru gan fod seremoni wobrwyo Cymru Y Gwir Flas wedi ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.

Fe aeth y gwobrau aur ac arian yn y categori Cwrw, Seidr a Pherai (o dan 10% alcohol fesur cyfaint) categori i Hurns Brewing o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus efallai fel Tomos Watkin am eu Blodwens Beer a Premier Ale. Enillydd y wobr efydd oedd Coles Family Brewery am eu Carmarthen Gold.

Yng nghategori Gwin, Gwirodydd a Diodydd Meddwol Eraill (mwy na 10% o afc) Condessa Liqueurs o Fôn cipiodd y gwobrau aur ac efydd gyda’u Sloe Gin a Gwirodlyn Hufen Cymreig Praline. Fe aeth y wobr arian i Penderyn Distillery am eu Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn.

Mae’n hefyd gwerth nodi fod Celt Experience wedi ennill y wobr arian yn y categori allforio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Mae’r Gwir Flas wedi gwneud gwaith clodwiw iawn ar gyfer y proffil ac ansawdd bwyd Cymreig, ond a’r Gwir Flas yw’r llwyfan gorau ar gyfer diodydd Cymru?

Hmm, dwi ddim yn siwr.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i hyrwyddo diodydd Cymru gan fod Gwir Flas yn or-gysylltiedig a bwyd. Prawf o hyn yw’r ffaith mai dim ond dau gategori sy’n cynnwys y diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd lle mae yna lu o rai ar gyfer bwydydd.

Os oes angen prawf pellach nad yw’r gwobrau yn ddigonol ar gyfer hyrwyddo’r diwydiant diodydd yng Nghymru, mae’r ffaith nad yw’r un seidr, perai na win wedi ennill gwobr eleni. Mae hyn yn ran mawr o’r diwydiant heb unrhyw gydnabyddiaeth.

Mae hyn yn deillio o’r ffordd ryfedd y mae’r categorïau diodydd wedi eu dylunio yn seiliedig ar gryfder alcohol. Mae hyn bron yn gyfystyr i gategoreiddio bwyd yn ôl calorïau, sydd yn hurt wrth gwrs. Mae’r ffaith ei fod yn bosibl i fragu cwrw o dros 10% ac yn gwneud gwin llai na 10% yn dangos pa mor amheus yw’r ffordd hyn o gategoreiddio.

Tybiaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl, os gofynnir iddynt, yn categoreiddio diodydd yn ôl eu math sef – cwrw, seidr, gwin, gwirodydd, gwirodydd ac ati.

I roi lle teilwng i ddiodydd yn y gwobrau fe fyddai angen creu llawer mwy o gategorïau a fuasai’n gwneud y gwobrau yn fwy anhylaw nag y maent ar hyn o bryd.

Credaf fod dau opsiwn. Symleiddio’r gwobrau fel bod pob categori yn cael pencampwr, enw gwell buasai ‘llysgennad categori’. Byddai hynny’n golygu un ar gyfer diodydd, un ar gyfer llaeth, un ar gyfer cig ac ati ac yna seremonïau categori a fyddai’n arwain i fyny at y noson fawr.

Yr opsiwn arall fyddai tynnu diodydd o’r Gwir Flas a chreu gwobr a brand penodol i ddiodydd. Byddai hyn yn adeiladu ar ac yn galluogi creu hunaniaeth neilltuol i ddiodydd Cymru, nod brand, a hyrwyddo diodydd yn seiliedig ar y gwerthoedd brand wnes i grybwyll yn fy mlog blaenorol.

Er bod y dewis cyntaf ei atyniadol, rwyf o blaid yr ail opsiwn gan ei fod yn rhoi diodydd Cymreig ar lefel gyfartal gyda bwyd, yn lle fod ei gysgod. Byddai’n helpu i greu hunaniaeth gref ar gyfer y sector diodydd yng Nghymru a gallai hefyd helpu cwmnïau ddarganfod ffyrdd i gael eu cynnyrch i’r farchnad gan fod cael gwobrwyau ei hun yn gwneud pethau eraill yn bosib fel gwobrau ar gyfer tafarndai ac ati gorau siopau, sydd orau ar hyrwyddo diodydd Cymreig. Buasai hyn yn annog eraill i ddilyn ac fe fyddai cwmnïau diodydd Cymru ar eu hennill.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru i ddod â diodydd Cymru i’r amlwg ac allan o’r cysgodion. Mae gennym gynnyrch gwych, ond, fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae maint y mwyafrif o gwmnïau yn golygu bod angen ychydig o gymorth arnynt i wireddu gwir botensial y diwydiant ac i atgyfnerthu eto delwedd Cymru fel lle gyda bwyd a diod ardderchog o’r ansawdd gorau posib. Dwi ddim yn meddwl y caiff hyn ei wireddu drwy fod yn rhan fach o wobrwyon a brand sydd wedi ei ddominyddu gan fwyd.