Archive for the ‘Proffil cynhyrchwr’ Category

Gwinllan Penarth Estate

08/07/2014

Mae tŷ Penarth Fawr ar lannau’r Afon Hafren rhyw filltir i’r dwyrain o’r Drenewydd. Mae’n dyddio nôl i’r pymthegfed ganrif ac mae’n un o’r tai ‘du a gwyn’ ffram bren hyfryd sy’n nodweddiadol o Sir Drefaldwyn.

Daeth Bernard Herbert sy’n hanu o Swydd yr Amwythig, ei wraig Tanya sy’n hanu o’r Unol Daleithiau a’u plant i Benarth Fawr ar ddiwedd y 90au ar ôl gwerthu eu busnes bwyty yn yr UDA. Roeddynt eisiau bywyd gwell i’w plant a hefyd cyfle i Bernard roi cynnig ar ei ddiddordeb o geisio tyfu grawnwin er mwyn gwneud gwin.

Daeth y diddordeb hwn o wahanol dripiau i ymweld â gwinllannoedd ar hyd a lled y byd yn sgil eu busnes bwytai a barrau gwin yn Llundain. Felly dyna ddechrau ar Winllan Penarth.

Penarth2

 

Athroniaeth Bernard yw plannu mathau o rawnwin sy’n adnabyddus am ei safon.Dyna pam y penderfynodd blannu’r grawnwin sy’n cael eu defnyddio i wneud Champagne – Pinot Noir, Chardonnay a Pinot Meunier. Er i rai ddadlau na fuasent yn tyfu mor bell i’r gogledd fe gafwyd cnwd bach yn 2002. Aethant wedyn i blannu mwy o winwydd ac mae yno bellach 3 hectar.

Mae’r rhan fwyaf o’r winllan wedi ei blannu gyda’r grawnwin Champagne ond mae yna hefyd rai eraill at ddibenion arbrofol megis Cabernet Franc, Merlot, Rondo, Sauvignon Blanc ac eraill.

Be sy’n fwyaf diddorol am y winllan yw’r agwedd tuag at wneud y gwin. Yn hytrach na phenderfynu gwneud y gwin yma neu’r llall bob blwyddyn mae Bernard yn gweithio gyda’r hinsawdd.

Mewn blwyddyn arferol maent yn gwneud gwin pefriog yn unig. Mae tri gwin pefriog ganddynt bob blwyddyn ac maent i gyd yn cael eu gwneud yn y dull traddodiadol, yr union ru’n fath a Champagne. Mae un o’r gwinoedd pefriog yn gymysgedd o rawnwin Champagne, un rhosliw pefriog ac un ‘blanc de blanc’, hynny ydi gwin pefriog wedi ei wneud o Chardonnay.

Fe ddechreuodd bobl gymryd y fenter o ddifrif ar ddiwedd yr 00au pan enillodd eu gwin pefriog wobr Decanter, sef y cylchgrawn gwin enwog.  Ers hynny mae eu gwin pefriog rhosliw hefyd wedi ennill gwobr.

Pan mae’r cynhaeaf yn dda maent yn gwneud gwin llonydd a pan mae’r tywydd yn wael mae’r holl gynnyrch yn cael ei droi’n frandi, yr unig frandi sydd wedi ei wneud o rawnwin yng Nghymru.

Yn Three Choirs a Halfpenny Green mae’r gwin yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac yn Llwydlo mae’r brandi yn cael ei ddistyllu.

image

Mae cael y busnesau yn Llundain yn hwb mawr oherwydd mae ganddynt farchnad barod i’w gwin. Yno maent yn gwerthu eu gwinoedd pefriog tra’n cadw eu gwinoedd llonydd i’r farchnad leol. Mae’r gwinoedd pefriog i gael yn lleol hefyd wrth gwrs.

Does dim cynllun i ehangu maint y winllan yn y dyfodol oherwydd y cam nesaf fyddai gwerthu trwy’r archfarchnadoedd. Golygai hynna dipyn go lew fwy o gynnyrch ond, gan eu bod yn gystadleuol, nid yw’r arian y buasent yn eu cael am hyn yn werth y buddsoddiad ym marn Bernard.

Er hynny mae cynlluniau diddorol am y dyfodol. Ar hyn o bryd mae warws aeddfedu yn cael ei adeiladu o fyrnau gwellt wedi gorchuddio a chalch. Mae’r dyluniad diddorol hwn yn cadw’r ‘seler’ tua 10˚C trwy’r flwyddyn. Yn olaf, mae cynllun arfaethedig i godi gwindy fel eu bod yn gallu troi eu grawnwin yn win ar y safle.

PenarthBottles

Mae’n bosib ymweld â’r winllan o bryd i’w gilydd ond mae angen cysylltu â nhw o flaen llaw i drefnu. Serch hynny, mae eu cynnyrch ar gael yn lleol yn siop hyfryd Quinces of Newtown.

Gyda thywydd da yn 2013 efallai bydd gwinoedd diddorol ar gael eleni, mae’r penderfyniad o beth i wneud a’r gwin sy’n prysur aeddfedu ar fin cael ei wneud, cawn weld yn fuan beth fydd y 2013 vintage o Benarth.

Advertisements

Aerona – gwirodlyn arbennig o Dwyfor

17/03/2014

Gwirodlyn yw Aerona wedi ei wneud o aeron Aronia a welodd olau dydd diolch i gyd-ddigwyddiad hapus rhwng prosiect arall gyfeirio ar gyfer ffermydd a hefyd dyfeisgarwch.

Ar fferm Rhedynog Isaf nepell o Chwilog yng Ngwynedd y caiff Aerona ei wneud gan Hazel a Gwilym Jones. Fel rhan o brosiect MENTERRA daeth yr eirin i’r fferm. Roedd y prosiect hwn yn ceisio darganfod pa gnydau a fyddai’n gallu tyfu yng Nghymru ar gyfer arall gyfeirio posib yn y dyfodol. Roedd nifer o wahanol gnydau  yn cael eu tyfu fel rhan o’r prosiect hwn ar wahanol ffermydd a’r Aronia a ddaeth i Rhedynog Isaf.

DSC04993

Pan ddaeth y prosiect i ben roedd yna 200 o goed mewn cae, felly beth i wneud gyda hwy? Nid ydynt y pethau gorau i’w bwyta o ran blas ond maent yn gryf mewn fitamin C ac antiocsidants.

Rhoddodd Hazel gynnig ar wneud cyffaith ac ati a meddyliodd am wneud gwin cefn gwlad ond, yn ddirybudd daeth y syniad i wneud gwirodlyn.

I wneud y gwirodlyn Aerona mae’r aeron yn cael eu cynaeafu dryw law diwedd yr haf hyd at yr hydref ac wedyn maent yn cael eu rhewi er mwyn eu cadw tan mae’r amser yn dod i’w defnyddio. I wneud Aerona maent yn cael eu rhoi mewn twbiau plastig gyda gwirod ynddo am dair mis mewn hen feudy. Yn ystod yr amser hwn mae’r gwirod yn torri’r aeron i lawr ac mae’r blas a’r lliw yn llifo ohonynt. Wedyn mae’n cael ei botelu, hefyd drwy law, ar y fferm.

Hazel wrthi'n potelu

Hazel wrthi’n potelu

Mae Aerona wedi bod yn llwyddiant. Mae angen ehangu ac mae beudy arall ar glos y fferm wedi ei glustnodi. Hefyd, yn ogystal â’r 200 o goed gwreiddiol mae mil ychwanegol wedi eu plannu.

Nid yw’r aeron yn cael eu taflu ar ôl potelu’r gwirodlyn, maent yn cael eu sychu ac wedyn cael eu defnyddio i wneud siocled blasus dros ben.

Aerona 006

Mae’n ymddangos y bod dyfodol disglair i Aerona.

Rhwng 9-10 ar nos Fercher 26 Mawrth rwyf am gynnal trydarflasu o Aerona, prynwch botel ac ymunwch gan ddefnyddio #diodyddcymru

Hurns Brewing Company

26/06/2013

Efallai na fydd ‘Hurns Brewing Company’ yn enw cyfarwydd iawn ond tybiaf bod Tomos Watkin yn ddipyn mwy cyfarwydd. Y cysylltiad rhwng y ddau yw bod cwrw Hurns yn cael eu gwerthu o dan y brand Tomos Watkin.

Enillodd dau gwrw Tomos Watkin tlysau aur ac efydd yng ngwobrau Gwir Flas y llynedd ond dechreuodd y cyfan pan brynodd tîm brawd a chwaer fragdy gan y derbynnydd yn ôl yn 2002. Roeddynt eisoes yn berchen ar gwmni cyfanwerthu a dosbarthu ac fe brynwyd y bragdy fel ‘naid ffydd’.

Ystod o'u diodydd

Ystod o’u diodydd

Roedd bod yn berchen ar gwmni cyfanwerthu yn galluogi iddynt ddosbarthu eu cynnyrch a hefyd tîm marchnata, dechrau da ar gyfer unrhyw fragwr newydd.

Ond pam ymgymryd â’r her o fragdy a oedd wedi methu? Yr ateb mewn gair yw angerdd. Maent yn angerddol am Gymru a’i bwyd a diod, credant y gall ein bwyd a diod sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r gorau yn y byd. Roeddent yn teimlo y dylai cwrw Cymreig hefyd yn cael y gydnabyddiaeth uchaf am ei ansawdd a bod Cymru yn haeddu cwrw gwych a oedd yn ‘cynnyrch waith llaw grefftus’ – dyma pam anwyd Tomos Watkin.

Ers 2002 mae’r cwmni a’u cynnyrch wedi tyfu i’r fath raddau fel bod ganddynt bellach gontractau ledled y byd. Mae buddsoddiad diweddar wedi gweld swm chwe ffigur yn cael ei wario ar waith potelu a phecynnu newydd sy’n dangos hyder yn y dyfodol ac mae eu cwrw yn dechrau gweld mwy o ddosbarthiad yng Nghymru ac yn y DU, er enghraifft mae bragwyr Fuller’s o Lundain newydd gymryd eu cwrw.

Mae Cymreictod a’r iaith Gymraeg yn amlwg yn eu brandio. Maent yn bragu ystod eang o gwrw mewn casgen, ceg a photel ac mae ganddynt hefyd amrywiaeth mawr o gwrw tymhorol a seidr. Bydd blog arall yn y dyfodol yn ymdrin â’u cwrw buddugol, ond, am y tro, mae’n wych gweld stori lwyddiant arall o fragu Cymreig.

Coles Family Brewery

08/04/2013

Fe ennillodd bragdy Coles Family Brewery wobr arian Cymru Y Gwir Flas eleni. Er ei fod yn fragdy, seidr yw Carmarthenshire Gold a ennillodd y wobr iddynt, mwy o hynny nes ymlaen.

Mae’r bragdy wedi’i leoli yn nhafarn y White Heart yn Llanddarog sydd i’r dwyrain o Gaerfyrddin ar yr A48 tuag at Cross Hands. Mae’r White Heart yn dy tafarn hynafol gyda tho gwellt hardd, ac os nad ydych erioed wedi bod yno, gallwch fynd ar daith rithiol. Tan yn ddiweddar, roedd y bragdy yn un bach ‘un-gasgen’ (one-barrel) yn y dafarn ei hun. Ond maen’t wedi ehangu a creu bragdy mwy ‘pedair-casgen’ (four barrel plant) mewn adeilad yr ochr arall eu maes parcio. I weld y Coles Family Brewery wrth eu gwaith gwyliwch y fideo yma sy’n mynd a chi drwy’r holl broses fragu.

Fe ddechreuont fragu yn y bragdy bach gwreiddiol yn 1999 er mwyn cyflenwi’r dafarn yn unig. Ond, gydag agor y bragdy newydd ym mis Ionawr gallant ddechrau cyflenwi tafarnau eraill ac hefyd dosbarthu eu cwrw potel yn ehangach.

Fe fydd y bragdy mwy yn cynhyrchu eu prif gwrw sef Cwrw Blasus, eu chwerw, Llanddarog, chwerw tywyll frown, Swn y Dail sy’n cael ei fragu gyda hopys o’r Unol Dalieithau a Merlin Stout.

Bydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofiadau bragu a fydd, os yn boblogaidd, yn cael ei wneud ar raddfa fwy yn y bragdy mawr. Hefyd fe fydd y bragdy bach yn cael ei ddefnyddio i fragu eu cwrw arbenigol tymhorol. Maen’t wedi cynhyrch nifer o gwrw arbenigol gan ddefnyddio pob math o gynhwysion megis betys, danadl poethion a stowt licris

Digon yma ar gyfer  yfwyr cwrw felly, ond maent hefyd yn gwneud seidr yn ystod y tymor cynhaeafu afalau. Maent yn gwneud pedwar seidr o sych i felys a hefyd seidr pefriog mewn arddull champagne gan ddefnyddio’r math Gala, sef afal bwdin. Mae’r ffaith nad ydynt bob amser yn defnyddio afalau seidr yn gwneud Coles ychydig yn wahanol i lawer o wneuthuwyr seidr eraill yng Nghymru. Mae pob un o’r afalau yn cyrraedd fel afal cyfan ac yn cael eu gwasgu i mewn sudd, eplesu ac yn aeddfedu ar y safle fel y gwelir yn y clip bach hwn o wneud seidr.

Mae rhai o’u afalau’n lleol ond maen’t hefyd yn cael rhai o fannau eraill gan gynnwys dros y ffin yn Lloegr. Dibynnir hyn ar faint o hael yw’r cynhaeaf leol.

Seidr sych-ganolig yw Carmarthenshire Gold itself a wneir gan ddefnyddio afalau pwdig a rhai coginio. Gan nad oes afalau seidr yn cael eu defnyddio ni fydd ‘tannin’ yn y seidr gorffenedig ond fe fydd yn eithaf siarp oherwydd yr afalau coginio.

Felly, tro nesaf y byddwch yn i lawr y ffordd honno gwnewch yn siŵr o alw mewn i fwynhau’r dafarn wych yma a’u cwrw a seidr ardderchog. Er bod y dafarn yn bendant yn werth yr ymweliad, gobeithio y bydd argaeledd ehangach  yn golygu bod eu cynnyrch yn cyrraedd cynulleidfa ehangach yn y dyfodol agos, a fyddai’n hynny’n newyddion gwych.