Gwirodlyn yw Aerona wedi ei wneud o aeron Aronia a welodd olau dydd diolch i gyd-ddigwyddiad hapus rhwng prosiect arall gyfeirio ar gyfer ffermydd a hefyd dyfeisgarwch.
Ar fferm Rhedynog Isaf nepell o Chwilog yng Ngwynedd y caiff Aerona ei wneud gan Hazel a Gwilym Jones. Fel rhan o brosiect MENTERRA daeth yr eirin i’r fferm. Roedd y prosiect hwn yn ceisio darganfod pa gnydau a fyddai’n gallu tyfu yng Nghymru ar gyfer arall gyfeirio posib yn y dyfodol. Roedd nifer o wahanol gnydau yn cael eu tyfu fel rhan o’r prosiect hwn ar wahanol ffermydd a’r Aronia a ddaeth i Rhedynog Isaf.
Pan ddaeth y prosiect i ben roedd yna 200 o goed mewn cae, felly beth i wneud gyda hwy? Nid ydynt y pethau gorau i’w bwyta o ran blas ond maent yn gryf mewn fitamin C ac antiocsidants.
Rhoddodd Hazel gynnig ar wneud cyffaith ac ati a meddyliodd am wneud gwin cefn gwlad ond, yn ddirybudd daeth y syniad i wneud gwirodlyn.
I wneud y gwirodlyn Aerona mae’r aeron yn cael eu cynaeafu dryw law diwedd yr haf hyd at yr hydref ac wedyn maent yn cael eu rhewi er mwyn eu cadw tan mae’r amser yn dod i’w defnyddio. I wneud Aerona maent yn cael eu rhoi mewn twbiau plastig gyda gwirod ynddo am dair mis mewn hen feudy. Yn ystod yr amser hwn mae’r gwirod yn torri’r aeron i lawr ac mae’r blas a’r lliw yn llifo ohonynt. Wedyn mae’n cael ei botelu, hefyd drwy law, ar y fferm.
Mae Aerona wedi bod yn llwyddiant. Mae angen ehangu ac mae beudy arall ar glos y fferm wedi ei glustnodi. Hefyd, yn ogystal â’r 200 o goed gwreiddiol mae mil ychwanegol wedi eu plannu.
Nid yw’r aeron yn cael eu taflu ar ôl potelu’r gwirodlyn, maent yn cael eu sychu ac wedyn cael eu defnyddio i wneud siocled blasus dros ben.
Mae’n ymddangos y bod dyfodol disglair i Aerona.
Rhwng 9-10 ar nos Fercher 26 Mawrth rwyf am gynnal trydarflasu o Aerona, prynwch botel ac ymunwch gan ddefnyddio #diodyddcymru