Archive for the ‘Cyffredinol’ Category

Cynhyrchwyr diodydd Cymru yn dod ynghyd

19/08/2013

Daeth cynhyrchwyr diodydd Cymraeg at ei gilydd yn ddiweddar i lansio sefydliad a’r nod o hyrwyddo pob un o ddiodydd Cymru.

Dwi’n amlwg yn gwybod rhywbeth am enwi oherwydd maent hefyd wedi defnyddio fy enw i gan alw’r sefydliad yn Diodydd Cymru!

Y nod yw creu hunaniaeth gynhwysfawr ar gyfer yr holl gynhyrchwyr diodydd Cymru i oresgyn un o broblemau mawr y diwydiant diodydd yng Nghymru, sef maint gymharol fach llawer o’r cynhyrchwyr fel y dywedais yma llynedd.

Maent yn dechrau gyda gwefan a logo ac wedi ffurfio bwrdd sy’n cael ei gadeirio gan Buster Grant o Brecon Brewing. Mae Buster wedi bod yn hyrwyddwr cryf o gwrw Cymreig ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn gwneud gwaith gwych dros ddiodydd Cymreig yn gyffredinol, yn enwedig gyda chymorth bwrdd sy’n cynnwys rhai o’r unigolion allweddol o’r sectorau diod gwahanol.

drinks wales

Mae’n werth dyfynnu ei datganiad cenhadaeth yn llawn ac rwy’n sicr ei fod yn un y buasai unrhyw un sy’n angerddol am ddiodydd Cymreig yn ei rannu:

‘Drinks Wales aims to promote the manufacture, appreciation and consumption of Welsh-made alcoholic drinks products throughout the UK and beyond, and to provide a point of contact for those who wish to learn more about this.’

Y brif her mae Buster yn gweld o’u blaenau yw sut i gael cwmnïau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd i gydweithredu er mwyn budd pawb. Ar hyn o bryd mae 35 cwmni wedi ymuno a’r fenter ac mae hynna’n ddechrau da.

Mae’r sefydliad yn un sy’n cael ei arwain gan y cynhyrchwyr a bydd yn darparu cyfeirlyfr o gynhyrchwyr a lleoedd sy’n gwerthu diodydd Cymreig. Fe fydd yn cynrychioli’r diwydiant drwy weithgarwch cysylltiadau cyhoeddus, gweithio ar dwristiaeth diodydd, cynrychioli’r diwydiant mewn sioeau masnach a llawer mwy. Gallwn hefyd yn disgwyl gweld gweithgarwch sylweddol o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi’r flwyddyn nesaf.

Lansiwyd y sefydliad newydd gan Alun Davies AC Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn y Sioe Frenhinol ac mae o wedi bod yn gefnogwr brwd o ddiwydiant diodydd Cymru ers dod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru.

Mae’r datblygiad hwn yn bendant yn gam cryf i’r cyfeiriad cywir gan y diwydiant ac rwy’n mawr obeithio y bydd cynifer o gynhyrchwyr diodydd Cymreig ag sy’n bosibl yn ymuno a dod yn aelodau o’r sefydliad. Wrth ddod at ei gilydd yn y ffordd hon mae modd gwireddu potensial y diwydiant diodydd yng Nghymru ac agor y drws i ddyfodol disglair.

Fel y dywedodd Buster Grant yn y lansiad ‘the future promises to be an exciting place. It is time to add to Welsh Drinks to the pantheon of Welsh achievements, to gather in the recognition and respect so overdue, to gain acknowledgement of achievements and awards; a far greater strike rate per company in each sector than in any other part of the UK. Let’s raise a glass… to Drinks Wales’

Wel mae’r Diodydd Cymru yma yn cytuno ac yn hapus i ddathlu’r datblygiad yma  – iechyd da!

Gwir Flas Diodydd Cymru?

08/11/2012

Gwyriad o fy nghynllun gwreiddiol i edrych ar bob categori yn niwydiant diodydd Cymru gan fod seremoni wobrwyo Cymru Y Gwir Flas wedi ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.

Fe aeth y gwobrau aur ac arian yn y categori Cwrw, Seidr a Pherai (o dan 10% alcohol fesur cyfaint) categori i Hurns Brewing o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus efallai fel Tomos Watkin am eu Blodwens Beer a Premier Ale. Enillydd y wobr efydd oedd Coles Family Brewery am eu Carmarthen Gold.

Yng nghategori Gwin, Gwirodydd a Diodydd Meddwol Eraill (mwy na 10% o afc) Condessa Liqueurs o Fôn cipiodd y gwobrau aur ac efydd gyda’u Sloe Gin a Gwirodlyn Hufen Cymreig Praline. Fe aeth y wobr arian i Penderyn Distillery am eu Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn.

Mae’n hefyd gwerth nodi fod Celt Experience wedi ennill y wobr arian yn y categori allforio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Mae’r Gwir Flas wedi gwneud gwaith clodwiw iawn ar gyfer y proffil ac ansawdd bwyd Cymreig, ond a’r Gwir Flas yw’r llwyfan gorau ar gyfer diodydd Cymru?

Hmm, dwi ddim yn siwr.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i hyrwyddo diodydd Cymru gan fod Gwir Flas yn or-gysylltiedig a bwyd. Prawf o hyn yw’r ffaith mai dim ond dau gategori sy’n cynnwys y diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd lle mae yna lu o rai ar gyfer bwydydd.

Os oes angen prawf pellach nad yw’r gwobrau yn ddigonol ar gyfer hyrwyddo’r diwydiant diodydd yng Nghymru, mae’r ffaith nad yw’r un seidr, perai na win wedi ennill gwobr eleni. Mae hyn yn ran mawr o’r diwydiant heb unrhyw gydnabyddiaeth.

Mae hyn yn deillio o’r ffordd ryfedd y mae’r categorïau diodydd wedi eu dylunio yn seiliedig ar gryfder alcohol. Mae hyn bron yn gyfystyr i gategoreiddio bwyd yn ôl calorïau, sydd yn hurt wrth gwrs. Mae’r ffaith ei fod yn bosibl i fragu cwrw o dros 10% ac yn gwneud gwin llai na 10% yn dangos pa mor amheus yw’r ffordd hyn o gategoreiddio.

Tybiaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl, os gofynnir iddynt, yn categoreiddio diodydd yn ôl eu math sef – cwrw, seidr, gwin, gwirodydd, gwirodydd ac ati.

I roi lle teilwng i ddiodydd yn y gwobrau fe fyddai angen creu llawer mwy o gategorïau a fuasai’n gwneud y gwobrau yn fwy anhylaw nag y maent ar hyn o bryd.

Credaf fod dau opsiwn. Symleiddio’r gwobrau fel bod pob categori yn cael pencampwr, enw gwell buasai ‘llysgennad categori’. Byddai hynny’n golygu un ar gyfer diodydd, un ar gyfer llaeth, un ar gyfer cig ac ati ac yna seremonïau categori a fyddai’n arwain i fyny at y noson fawr.

Yr opsiwn arall fyddai tynnu diodydd o’r Gwir Flas a chreu gwobr a brand penodol i ddiodydd. Byddai hyn yn adeiladu ar ac yn galluogi creu hunaniaeth neilltuol i ddiodydd Cymru, nod brand, a hyrwyddo diodydd yn seiliedig ar y gwerthoedd brand wnes i grybwyll yn fy mlog blaenorol.

Er bod y dewis cyntaf ei atyniadol, rwyf o blaid yr ail opsiwn gan ei fod yn rhoi diodydd Cymreig ar lefel gyfartal gyda bwyd, yn lle fod ei gysgod. Byddai’n helpu i greu hunaniaeth gref ar gyfer y sector diodydd yng Nghymru a gallai hefyd helpu cwmnïau ddarganfod ffyrdd i gael eu cynnyrch i’r farchnad gan fod cael gwobrwyau ei hun yn gwneud pethau eraill yn bosib fel gwobrau ar gyfer tafarndai ac ati gorau siopau, sydd orau ar hyrwyddo diodydd Cymreig. Buasai hyn yn annog eraill i ddilyn ac fe fyddai cwmnïau diodydd Cymru ar eu hennill.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru i ddod â diodydd Cymru i’r amlwg ac allan o’r cysgodion. Mae gennym gynnyrch gwych, ond, fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae maint y mwyafrif o gwmnïau yn golygu bod angen ychydig o gymorth arnynt i wireddu gwir botensial y diwydiant ac i atgyfnerthu eto delwedd Cymru fel lle gyda bwyd a diod ardderchog o’r ansawdd gorau posib. Dwi ddim yn meddwl y caiff hyn ei wireddu drwy fod yn rhan fach o wobrwyon a brand sydd wedi ei ddominyddu gan fwyd.