Yn debyg i nifer o fragdai canolig eu maint mae’r enwog SA Brain o Gaerdydd wedi agor bragdy crefft bach. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt arbrofi drwy fragu dipyn bach o gwrw eithaf gwahanol.
Yn yr UDA cwrw a wisgi yw ‘Boilermaker’ sydd yn cael ei yfed wedi’i gymysgu neu drwy yfed y wisgi gyntaf mewn un cegiad ac wedyn yfed y cwrw yn araf.
Dyma yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Boilermaker Brains. Bragwyd gan ddefnyddio hopys Chinook, Simcoe, Cascade a Willamette ac mae’n cael ei aeddfedu mewn casgenni a oedd wedi dal wisgi Penderyn, hefyd mae sglodion pen sydd wedi eu socian mewn wisgi Penderyn eu rhoi yn y gasgen.
Fel arfer, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…
Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 23 Ionawr rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru