Un o bleseroedd ‘Dolig yw’r wahanol gwrw tymhorol sydd yn cael eu bragu, felly be well na rhoi cynnig ar un ohonnynt.
Dechreuodd Mŵs Piws fragu ym Mhorthmadog nol yn 2005 ac maen’t wedi yn ddiweddar eu bod yn ehangu.
Eu cwrw Nadoligaidd yw X-Mŵs Llawen sy’n cael ei fragu gan ddefnyddio haidd brag tywyll a dylai rhoi blas eithaf cyfoethog. Mae fersiwn casgen hefyd ar gael y nein tafarndai sydd ychydig yn is afc sef 4.4%.
Fel arfer, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…
Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 12 Rhagfyr rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru
Leave a Reply