Fe wnaeth tri bragdy o Ogledd Cymru gael dipyn o hwyl arni ym Mhencampwriaeth Cwrw Prydain Fawr sy’n cael ei drefnu gan CAMRA – Bragdy’r Gogarth, Conwy a Mws Piws.
Efallai fydd y cyfan yn cael sylw Diod y Mis rhyw ben ond fe ddechreuai gydag enillydd y wobr aur yng nghategori cwrw mwyn – Welsh Black gan Fragdy’r Gogarth.
Fe ddechreuodd Bragdy’r Gogarth yn 2005 ac maent wedi eu lleoli ar bwys Llansantffraed. Maent yn bragu cwrw casgen ac mewn potel ac mae’r Welsh Black ar gael yn y ddau fformat.
Yr haidd brag sy’n allweddol i’r cwrw hwn – pale ale, siocled, du a chrisial a hefyd gwenith ‘torrified’. Mae ychydig o hopys ar gyfer chwerwder yn cael ei ddefnyddio ond dim ond fel gwely hidlo ar waelod y copr ac felly ni wnaiff ychwanegu fawr o chwerwder. Be sy’n ddiddorol yw nad oes unrhyw hopys arogl yn cael ei ddefnyddio felly fydd y blas i gyd yn dod o’r haidd brag.
Wel, beth yw eich barn, gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…
Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Mercher 11 Medi rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru
NODWCH MAI DYDD MERCHER YW’R NOSON Y TRO HYN.
Tags: Bragdy'r Gogarth, Welsh Black
Leave a Reply