Mae hi’n flwyddyn ers i Glwb Pêl Droed Dinas Abertawe chwarae eu gêm gyntaf ym Mhrif Gynghrair Lloegr ac fe gafodd cwrw a fragwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur hefyd reswm da dros ddathlu.
Enillydd arall Tomos Watkin yng ngwobrau’r Gwir Flas oedd Premier Ale a gafodd wobr efydd. Ond ni fydd yn cael bod yn ddiod y mis oherwydd cwrw arbennig ydoedd ac nid yw’n bellach yn cael ei fragu.
Cwrw chwerw yw Premier Ale ac yn 4.3% afc. Defnyddir haidd bragu golau ac ambr a hefyd gwenith brag yn ogystal â’r hopys Fuggles a Styrian Goldings.
Mae iddo liw ambr hyfryd ac arogl o hopys sbeislyd. Sbeis a hopys sitrws yw’r prif flas ond mae hefyd cydbwysedd yn dod gyda dylanwad yr haidd brag. Mae’n gorffen yn dda a sych gyda sbeis yn aros yn y geg ac mae dylanwad yr haidd brag i’w deimlo eto.
Ar y cyfan, cwrw da iawn, piti nad yw’n cael ei fragu mwyach!
Tags: Hurns, Tomos Watkin
Leave a Reply