Fe ennillodd Blodwen’s Beer gan Tomos Watkin y wobr aur yn Cymru Y Gwir Flas llynnedd.
Y Prif Fragwr yw Alex Cunningham ac fe ddyluniodd y cwrw yma i’r darn yna o’r farchnad sydd rwng lager a chwrw, er dywed ef ‘ei fod yn bendant yn gwrw’.
Mae’n cael ei fragu gan ddefnyddio haidd brag lager fel ei fod gorffen llyfn arno ac nid oes lawer o hopys yn cael ei ddefnyddio.
Mae Alex yn ei ddisgrifio fel cwrw llyfn a golau ei liw a dyma’n union fuasai rhywun yn ei ddisgwyl gyda mymryn o gyfraniad blas gan yr haidd brag lager a ddim llawer o chwerwder gan nad oes fawr o hopys ynddo.
Wel, beth ydych chi’n ei feddwl?
Prynwch botel neu ddau a gadewch eich sylwadau yma ar y blog a/neu…
Ymunwch yn fwy gyda’r sesiwn trydarflasu ar ddydd Iau 11 Gorffennaf rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru
Tags: cwrw, Hurns, Tomos Watkin
Leave a Reply