Mae arwydd pellach o ffyniant bragdai Cymru i’w weld ym Mragdy’r Mws Piws ym Mhorthmadog.
Dechreuodd Mws Piws nol yn 2005. Mae’r bennod ddiweddaraf yn eu hanes yn gweld prosiect i ehangu eu gallu cynhyrchu i liniaru cyfyngiadau capasiti i ateb y galw presennol am eu cwrw a hefyd i’w galluogi i ehangu ymhellach. Maent yn cynyddu maint eu bragdy o’r ddeg casgen bresennol i 40 casgen.
Bydd hyn yn caniatáu Mws Piws i gynyddu argaeledd eu cwrw, sydd wedi ennill sawl gwobr, yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain. Mae hefyd yn golygu eu bod yn gallu dechrau allforio eu cwrw potel. Y cynllun cyfredol yw cynyddu bragu eu hystod bresennol o gwrw yn hytrach na ychwanegu cwrw newydd. Un canlyniad yw bod Ysgawen, cwrw blodau ysgaw, am fod ar gael drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na’n gwrw tymhorol.
Mae cymorth ariannol wedi dod o Gronfa Fuddsoddi Leol Cyngor Gwynedd ac mae un swydd newydd wedi cael ei greu yn syth gan gynyddu maint eu tîm gwerthu. Mae’r ehangu hefyd yn debygol o greu swyddi newydd pellach yn y dyfodol. Ar y cyfan mae hyn yn newyddion da iawn i fragu yng Nghymru ac i Borthmadog.
Leave a Reply