Gyda Wythnos Win Cymru 2013 yn dod i ben meddyliais y buasai’n syniad blasu un o winoedd ein diwydiant gwin sy’n brysur tyfu.
Mae’n debyg mai Ancre Hill Estates yw ein gwinllan blaenllaw ac maen’t wedi eu lleoli ar gyrion Trefynwy. Fel y soniais ar y blog yn ddiweddar, maen’t wedi ennill y Bollicine Del Mondo ar gyfer eu gwin gwyn pefriog, buddigoliaeth hynod wych.
Hefyd maen’t yn dilyn egwyddorion biodynamig ac wrthi yn datblygu gwindy, neu gynhyrchfa win, a fydd y cyntaf yng Nghymru.
Mae Chardonnay 2010 yn ganlyniad o dywydd tyfu gwych. O ran ei gynhyrchu, fe gafodd dri-chwarter o’r gwin ei eplesu mewn tanc dur di-staen a’r gweddill mewn casgenni derw Ffrening am chwe mis.
Disgwyliaf i’r casgenni derw Ffrening gyfrannu rhywbeth i’r blas, fe gawn weld.
Felly, mae dwy ffordd i fwynhau diod y mis ond mae’n anghenrheidiol cael potel o Ancre Hill Chardonnay 2010 yn gyntaf wrth gwrs!
Yfwch yn eich amser eich hun a chyfrannwch eich sylwadau ar y blog a/neu…
Ymunwch a’r sesiwn trydarflasu yn fyw ar ddydd Iau 13ed Mehefin rhwng 9-10yh gan ddefnyddio #diodyddcymru
Tags: Ancre Hill, gwin
Leave a Reply