Gwir Flas Diodydd Cymru?

Gwyriad o fy nghynllun gwreiddiol i edrych ar bob categori yn niwydiant diodydd Cymru gan fod seremoni wobrwyo Cymru Y Gwir Flas wedi ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.

Fe aeth y gwobrau aur ac arian yn y categori Cwrw, Seidr a Pherai (o dan 10% alcohol fesur cyfaint) categori i Hurns Brewing o Abertawe, sy’n fwy adnabyddus efallai fel Tomos Watkin am eu Blodwens Beer a Premier Ale. Enillydd y wobr efydd oedd Coles Family Brewery am eu Carmarthen Gold.

Yng nghategori Gwin, Gwirodydd a Diodydd Meddwol Eraill (mwy na 10% o afc) Condessa Liqueurs o Fôn cipiodd y gwobrau aur ac efydd gyda’u Sloe Gin a Gwirodlyn Hufen Cymreig Praline. Fe aeth y wobr arian i Penderyn Distillery am eu Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn.

Mae’n hefyd gwerth nodi fod Celt Experience wedi ennill y wobr arian yn y categori allforio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Mae’r Gwir Flas wedi gwneud gwaith clodwiw iawn ar gyfer y proffil ac ansawdd bwyd Cymreig, ond a’r Gwir Flas yw’r llwyfan gorau ar gyfer diodydd Cymru?

Hmm, dwi ddim yn siwr.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi mai dyma’r ffordd orau i hyrwyddo diodydd Cymru gan fod Gwir Flas yn or-gysylltiedig a bwyd. Prawf o hyn yw’r ffaith mai dim ond dau gategori sy’n cynnwys y diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd lle mae yna lu o rai ar gyfer bwydydd.

Os oes angen prawf pellach nad yw’r gwobrau yn ddigonol ar gyfer hyrwyddo’r diwydiant diodydd yng Nghymru, mae’r ffaith nad yw’r un seidr, perai na win wedi ennill gwobr eleni. Mae hyn yn ran mawr o’r diwydiant heb unrhyw gydnabyddiaeth.

Mae hyn yn deillio o’r ffordd ryfedd y mae’r categorïau diodydd wedi eu dylunio yn seiliedig ar gryfder alcohol. Mae hyn bron yn gyfystyr i gategoreiddio bwyd yn ôl calorïau, sydd yn hurt wrth gwrs. Mae’r ffaith ei fod yn bosibl i fragu cwrw o dros 10% ac yn gwneud gwin llai na 10% yn dangos pa mor amheus yw’r ffordd hyn o gategoreiddio.

Tybiaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl, os gofynnir iddynt, yn categoreiddio diodydd yn ôl eu math sef – cwrw, seidr, gwin, gwirodydd, gwirodydd ac ati.

I roi lle teilwng i ddiodydd yn y gwobrau fe fyddai angen creu llawer mwy o gategorïau a fuasai’n gwneud y gwobrau yn fwy anhylaw nag y maent ar hyn o bryd.

Credaf fod dau opsiwn. Symleiddio’r gwobrau fel bod pob categori yn cael pencampwr, enw gwell buasai ‘llysgennad categori’. Byddai hynny’n golygu un ar gyfer diodydd, un ar gyfer llaeth, un ar gyfer cig ac ati ac yna seremonïau categori a fyddai’n arwain i fyny at y noson fawr.

Yr opsiwn arall fyddai tynnu diodydd o’r Gwir Flas a chreu gwobr a brand penodol i ddiodydd. Byddai hyn yn adeiladu ar ac yn galluogi creu hunaniaeth neilltuol i ddiodydd Cymru, nod brand, a hyrwyddo diodydd yn seiliedig ar y gwerthoedd brand wnes i grybwyll yn fy mlog blaenorol.

Er bod y dewis cyntaf ei atyniadol, rwyf o blaid yr ail opsiwn gan ei fod yn rhoi diodydd Cymreig ar lefel gyfartal gyda bwyd, yn lle fod ei gysgod. Byddai’n helpu i greu hunaniaeth gref ar gyfer y sector diodydd yng Nghymru a gallai hefyd helpu cwmnïau ddarganfod ffyrdd i gael eu cynnyrch i’r farchnad gan fod cael gwobrwyau ei hun yn gwneud pethau eraill yn bosib fel gwobrau ar gyfer tafarndai ac ati gorau siopau, sydd orau ar hyrwyddo diodydd Cymreig. Buasai hyn yn annog eraill i ddilyn ac fe fyddai cwmnïau diodydd Cymru ar eu hennill.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru i ddod â diodydd Cymru i’r amlwg ac allan o’r cysgodion. Mae gennym gynnyrch gwych, ond, fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae maint y mwyafrif o gwmnïau yn golygu bod angen ychydig o gymorth arnynt i wireddu gwir botensial y diwydiant ac i atgyfnerthu eto delwedd Cymru fel lle gyda bwyd a diod ardderchog o’r ansawdd gorau posib. Dwi ddim yn meddwl y caiff hyn ei wireddu drwy fod yn rhan fach o wobrwyon a brand sydd wedi ei ddominyddu gan fwyd.

Advertisements

Tags: , , , , , , , , ,

One Response to “Gwir Flas Diodydd Cymru?”

  1. Rhys Wynne Says:

    Heb drio run o’r ddau gwrw gan Tomos Watkin (er wedi yfed sawl peint o’u cwrw eraill) a tra mae’nt yn fwy na derbyniol, dw i’n meddwl bod cwrw eraill lot gwell i gael. Mae lot i lawr i dast y beirniad wrth gwrs, ond mae Cwrw Euraidd Celt Experience yn falsus iawn, a salw un gan Fragdy Conwy, Cwrw Gwledd yn arbennig.

    Syniad da am flog gyda llaw a beirniadaeth teg iawn o werth y gystadleuaeth, nid mod in arbennigwr ar y pwnc.

    O ran y blog ei hun, mae templedi/patrymlun lot mwy deniadol na hwn i gael ar WordPress! Pob hwyl gyda’r blog.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s


%d bloggers like this: