Mae gan y diwydiant diodydd yng Nghymru llawer i’w gynnig, cynnig anhygoel o wahanol fathau o ddiodydd – cwrw, seidr, gellygwin/perai, gwin, gwirodydd a gwirodydd – yn enwedig o ystyried maint Cymru.
Un o nodweddion allweddol y diwydiant diodydd yng Nghymru yw nad oes cynhyrchwyr mawr iawn (gan anwybyddu ffatri cwrw AB Inbev ym Magwyr, De-ddwyrain Cymru). SA Brain yw ein cynhyrchydd mwyaf, ond maent yn bell o fod yn gwmni rhyngwladol. Mae cwmnïau rhyngwladol yn bresennol yn y tafarnau, bwytai a siopau, wrth gwrs, ble nad ydynt?
A yw maint cynhyrchwr yn bwysig, a ddylem fod yn edrych i ddenu cwmni mawr i agor ffatri gwrw yng Nghymru?
Wel, mae bod yn gartref i gynhyrchwyr cymharol fach yn rhoi delwedd gref i Gymru ‘werthu’ ei diwydiant diodydd, delwedd y gallai pob cynhyrchydd fanteisio arno a hefyd delwedd nad yw lawer o wledydd eraill yn meddu arno.
Os byddech yn bwriadu adeiladu brand ar gyfer diodydd Cymru, mae’r ffaith fod y cynhyrchwyr yn rhai cymharol fach yn creu ‘gwerthoedd brand’ cryf megis – graddfa fach, crefft, crefftus, ansawdd, angerdd personol.
Dylai hyn gysylltu’n dda gyda delwedd Cymru fel lle ar gyfer gastro-dwristiaeth, fel yr adroddwyd yn y Guardian yn ddiweddar, a dylai’r diwydiant diodydd fod yn rhan o hyn. Yn hanesyddol, mae hyrwyddo bwyd Cymru wedi anwybyddu diodydd Cymru. Mae hyn o’r diwedd yn dechrau newid diolch i Dirprwy Weinidog Lywodraeth Cymru Alun Davies AC.
Fodd bynnag, mae gan bob ochr bositif ei ochr negyddol, mae bod yn fach hefyd yn golygu y gall fod yn anodd sicrhau màs critigol. Mae’r mwyafrif helaeth o gynhyrchwyr yng Nghymru yn fach iawn a gall hyn olygu bod ganddynt fawr o amser ar gyfer unrhyw beth y tu hwnt i gynhyrchu.
A wnaiff Lywodraeth Cymru rhoi’r un ymdrech i mewn i ddiodydd Cymru a’u cael i’r un lefel o gydnabyddiaeth efel y gwnaethpwyd ar gyfer bwyd Cymru? Gobeithio wir.
Yn y gyfres o flogiau nesa ‘byddaf yn rhoi edrych ar bob sector o’r diwydiant diodydd yng Nghymru yn eu tro gan ddechrau gydag ein categori mwyaf, cwrw.
09/11/2012 at 11:43 |
Ddim yn siwr pa mor gyfredol ydy o*, ond mae rhestr o fragwyr Cymru i’w gael yma http://cy.wikipedia.org/wiki/Cwrw_Cymreig
(*gan mai wiki ydy, gallu unrhyw un ei ddiweddaru wrth gwrs)